Fe wnaeth ‘hiliaeth dreiddiol’ arwain at fethu â choffau cannoedd o filoedd o filwyr du ac Asiaidd a wnaeth farw’n ymladd i’r Ymerodraeth Brydeinig yn y Rhyfel Byd Cyntaf, meddai ymchwiliad.

Mae Comisiwn Beddi Rhyfel y Gymanwlad wedi ymddiheuro ar ôl i’w ymchwiliad ddarganfod na chafodd yr unigolion hyn eu coffau’n ffurfiol yn yr un ffordd â milwyr gwyn.

Bydd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Ben Wallace, yn gwneud datganiad ar y canfyddiadau heddiw (Ebrill 22), a bydd yr adroddiad llawn yn cael ei gyhoeddi hefyd.

Canfyddiadau’r ymchwiliad

Fe wnaeth yr ymchwiliad ddarganfod bod o leiaf 116,000 o filwyr fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a oedd yn bennaf yn Affricanwyr neu’n dod o’r Dwyrain Canol, “heb eu coffau gyda’u henwau, neu efallai o gwbl”.

Gallai’r ffigwr fod yn nes at 350,000, yn ôl adroddiad gan y Guardian.

Cafodd y rhan fwyaf o’r dynion eu coffau ar gofebion heb eu henwau, ac mae’r ymchwiliad yn amcangyfrif bod rhwng 45,000 a 54,000 o filwyr Asiaidd ac Affricanaidd wedi’u “coffau’n anghyfartal”.

Cafodd rhai eu coffau ar y cyd ar gofebion, yn wahanol i’r hyn ddigwyddodd yn Ewrop, a chafodd eraill, a oedd ar goll, eu cofnodi ar gofrestrai yn hytrach nag ar gerrig.

Daeth yr ymchwiliad i’r casgliad fod y methiant i goffau unigolion yn gywir wedi’u “dylanwadu gan brinder gwybodaeth, camgymeriadau a gafodd eu hetifeddu gan fudiadau eraill, a barn gweinyddwyr trefedigol”.

“Fodd bynnag, roedd rhagfarnau, rhagdybiaethau, a hiliaeth dreiddiol yn agweddau ymerodrol y cyfnod yn sail i’r holl benderfyniadau hyn,” meddai’r ymchwiliad.

Sefydlwyd y pwyllgor, a oedd yn gyfrifol am yr ymchwiliad gan Gomisiwn Beddi Rhyfel y Gymanwlad yn 2019, ar ôl i raglen ddogfen godi’r mater.

Cafodd y Comisiwn ei sefydlu yn 1917 er mwyn coffau pobol fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf, bryd hynny dan yr enw Comisiwn Beddi Rhyfel yr Ymerodraeth.

“Cydnabod camweddau’r gorffennol”

Wrth ymateb i’r adroddiad, dyweda’r Comisiwn Beddi Rhyfel y Gymanwlad ei fod yn “cydnabod fod y Comisiwn wedi methu â chyflawni eu cyfrifoldebau yn llawn ar y pryd”, yn “derbyn y canfyddiadau a’r methiannau sydd wedi’u hadnabod yn yr ymchwil, ac yn ymddiheuro’n ddiamod amdanynt”.

“Roedd digwyddiadau canrif yn ôl yn anghywir ar y pryd, ac maen nhw’n anghywir nawr,” meddai Claire Horton, Cyfarwyddwr Cyffredinol y Comisiwn.

“Rydyn ni’n cydnabod camweddau’r gorffennol, mae’n ddrwg iawn gennym, a byddwn ni’n gweithredu ar unwaith i’w cywiro nhw.”

“Ni all unrhyw ymddiheuriad wneud iawn”

“Ni all unrhyw ymddiheuriad wneud iawn am yr amarch y gwnaeth yr anghofiedig ei ddioddef,” meddai’r Aelod Seneddol David Lammy, a wnaeth gyflwyno’r rhaglen ddogfen a arweiniodd at sefydlu’r ymchwiliad.

“Fodd bynnag, mae’r ymddiheuriad yn cynnig cyfle i ni, fel cenedl, weithio drwy gyfnod hyll yn ein hanes – a thalu ein teyrngedau yn iawn i bob milwr a wnaeth aberthu ei fywyd drosom ni.”