Yn Rwsia mae miloedd o gefnogwyr arweinydd yr wrthblaid, Alexei Navalny, sydd wedi cael ei garcharu, wedi bod yn gorymdeithio ym Mosgo fel rhan o brotestiadau ar draws y wlad yn galw am ei ryddhau.

Cafodd mwy na 1,000 o bobl ar draws y wlad eu harestio mewn cysylltiad â’r protestiadau, yn ôl grŵp hawliau dynol.

Cafodd nifer eu harestio cyn i’r protestiadau ddechrau, gan gynnwys dau o brif gyd-weithwyr Alexei Navalny ym Mosgo.

Roedd tîm Alexei Navalny wedi galw ar bobl i brotestio yn dilyn adroddiadau dros y penwythnos fod ei iechyd yn dirywio a’i fod mewn cyflwr “difrifol”.

Roedden nhw wedi galw ar brotestwyr ym Mosgo i ymgynnull yn Sgwâr Manezh, y tu allan i waliau’r Kremlin ond roedd yr heddlu wedi rhwystro mynediad i’r lleoliad.

Fe ymgasglodd torf fawr gerllaw yn lle, cyn gorymdeithio drwy’r strydoedd.

Yn St Petersburg roedd yr heddlu wedi rhwystro mynediad i Sgwâr y Palas ger amgueddfa Hermitage ac roedd protestwyr wedi ymgasglu mewn stryd gerllaw.

Mae Alexei Navalny, 44, yn un o brif wrthwynebwyr yr Arlywydd Vladimir Putin, a chafodd ei arestio ym mis Ionawr ar ôl iddo ddychwelyd o’r Almaen lle’r oedd wedi treulio pum mis yn cael triniaeth ar ôl cael ei wenwyno. Mae wedi rhoi’r bai ar y Kremlin am ei wenwyno ond mae swyddogion yn Rwsia wedi gwrthod hynny.