Fe fydd Syr Keir Starmer a Mark Drakeford yn ymweld â Wrecsam heddiw (Dydd Iau, Ebrill 22) fel rhan o ymgyrch etholiad Llafur.
Bydd yr arweinydd Llafur a Phrif Weinidog Cymru yn ymweld â busnesau a chymryd rhan mewn ymgyrchu o ddrws i ddrws.
Mae Llafur Cymru wedi disgrifio’r rhanbarth fel “pwerdy economaidd Cymru” gan addo creu swyddi newydd a gwyrdd.
Mae’n cynnwys creu Parc Cenedlaethol newydd ym Mryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, a datblygu ynni llanw newydd ar draws y rhanbarth a helpu i gefnogi sectorau allweddol yr ardal fel awyrofod a thwristiaeth.
Mae’r blaid hefyd wedi addo sefydlu ysgol feddygol newydd yng ngogledd Cymru er mwyn hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr iechyd proffesiynol a chefnogi adferiad y GIG yn dilyn y pandemig.
Cyn yr ymweliad, dywedodd Syr Keir Starmer: “Mae Mark Drakeford a minnau wedi ymrwymo i greu swyddi a dod â buddsoddiad newydd i ogledd Cymru.
“Bydd cynllun Llafur Cymru yn sicrhau bod gogledd Cymru yn parhau i symud ymlaen. Mae’n gynllun ar gyfer buddsoddiad mawr mewn gofal iechyd gydag ysgol feddygol newydd, adeiladu cartrefi newydd, gwarantu swyddi neu hyfforddiant i bobl ifanc, a thrafnidiaeth gyhoeddus fodern.
“Mae ein cynnig yn ymwneud â’r dyfodol. Gyda’n gilydd, byddwn yn buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, yn dathlu llwyddiant diwylliannol a chwaraeon, ac yn hyrwyddo’r rhanbarth gwych hwn ledled y byd. ”
Ychwanegodd Mark Drakeford: “Mae gennym gynllun uchelgeisiol i wella o’r pandemig ac ailadeiladu’n decach, gan adael neb ar ôl wrth inni symud gogledd Cymru ymlaen.”
“Rydym wedi neilltuo rhaglen buddsoddi cyfalaf gwerth £ 15 biliwn ar gyfer y tymor nesaf, y byddwn yn ei ddefnyddio i greu swyddi ledled gogledd Cymru a gweddill y wlad.”
“Llafur wedi siomi pobl Wrecsam”
Wrth ymateb i’r ymweliad â gogledd Cymru gan arweinydd Llafur, Syr Keir Starmer, dywedodd ymgeisydd Ceidwadol Cymru ar gyfer Wrecsam, Jeremy Kent: “Mae Llafur wedi siomi pobl Wrecsam am y ddau ddegawd diwethaf ac nid yw ymweliad gan Syr Keir yn mynd i newid pethau.
“O’u methiant i greu economi gryfach i’w rheolaeth drychinebus o’r GIG yng ngogledd Cymru, dylai Syr Keir ddefnyddio ei ymweliad heddiw i ymddiheuro i bobl ledled y rhanbarth, ac yn arbennig am y modd trasig yr oedd Llafur wedi trin Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
“Mae angen i Gymru droi’r dudalen ar Blaid Lafur sydd wedi cymryd cymunedau ledled gogledd Cymru yn ganiataol am gyfnod rhy hir, a dim ond Ceidwadwyr Cymru fydd yn adeiladu Cymru well gyda mwy o swyddi, gwell ysbytai ac ysgolion dosbarth cyntaf.”
Mynd i’r afael â thlodi plant
Yn y cyfamser mae llefarydd addysg Plaid Cymru ac ymgeisydd y Senedd ar gyfer Arfon, Siân Gwenllian, wedi amlinellu sut y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn gweithio tuag at ddarparu prydau ysgol am ddim i blant yng Nghymru, gan helpu i gau’r bwlch cyrhaeddiad a mynd i’r afael â thlodi plant.
Mae ffigurau gan y Grŵp Gweithredu Tlodi Plant yn dangos nad yw tua 70,000 o blant yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi yn y Deyrnas Unedig yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd.
Dywedodd Siân Gwenllian y byddai’r polisi’n canolbwyntio ar gefnogi ffermwyr a busnesau Cymru trwy hybu caffael lleol, ac y dylid ei gyflwyno trwy ymestyn cymhwysedd prydau ysgol am ddim i blant cynradd o aelwydydd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol. Byddai pob plentyn yn yr ysgol gynradd yn derbyn prydau ysgol am ddim cyn diwedd tymor cyntaf Plaid Cymru yn y llywodraeth, meddai.
Prydau ysgol am ddim
Mae arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds, wedi dweud y bydd y blaid yn mynd “hyd yn oed ymhellach” wrth ddarparu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion fel rhan o’u hymgyrch etholiadol.
O dan arweiniad y Gweinidog Addysg Kirsty Williams mae prydau ysgol am ddim wedi hawlio eu lle ar flaen yr agenda gwleidyddol, meddai Jane Dodds, gyda phrydau bwyd yn cael eu darparu i ddisgyblion yn ystod y gwyliau ysgol a phan oedd ysgolion ynghau a phlant yn cael gwersi gartref.
Dywedodd: “Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru eisiau i hyn fynd ymhellach fyth, rydyn ni wedi gweld y buddion a’r manteision y mae disgyblion, yn enwedig y rhai o gefndiroedd tlotach, yn eu cael o gael pryd bwyd da.
“Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru eisiau ehangu’r ddarpariaeth Prydau Ysgol Am Ddim yn ystod gwyliau’r ysgol y tu hwnt i’r pandemig hwn a buddsoddi mewn rhaglenni sy’n mynd i’r afael â newyn gwyliau, ac arwahanrwydd.
“Rydym hefyd yn addo parhau i roi arian i sicrhau’r un cyfleoedd i’n disgyblion tlotaf â’u cyfoedion, o helpu i dalu cost gwisgoedd ysgol a chitiau chwaraeon, i gefnogi teithiau ac offer TG.”
Fe fydd etholiad Senedd Cymru yn cael ei gynnal ddydd Iau, Mai 6.