Fe gafodd mwy o becynnau bwyd eu dosbarthu i bobol yn ystod y pandemig nag erioed o’r blaen, yn ôl yr Ymddiriedolaeth Trussell.
Rhoddodd yr elusen 145,828 o becynnau bwyd i bobol yng Nghymru rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021.
Dros y Deyrnas Unedig, cafodd 2.5 miliwn o becynnau bwyd eu dosbarthu mewn blwyddyn, y tro cyntaf i’r nifer fod yn uwch na dwy filiwn.
Roedd hyn yn gynnydd o 33% o gymharu â 2019-20, ac roedd cynnydd o draean yn niferoedd y bobol a wnaeth ddefnyddio banciau bwyd rhwng 2020-21.
Cafodd y pecynnau eu rhannu gan 125 o fanciau bwyd yng Nghymru, ac aeth dros 54,000 o’r pecynnau i blant.
Ledled y Deyrnas Unedig, cafodd bron i filiwn o’r pecynnau eu dosbarthu i blant – sydd gyfystyr ag un pecyn bob munud, meddai’r elusen.
“Nid yw hyn yn iawn”
Mae’r elusen yn dweud bod y galw am becynnau bwyd wedi cynyddu oherwydd nad oes gan bobol ddigon o arian i brynu nwyddau sylfaenol.
Yn ôl yr elusen, y prif elfennau sy’n cyfrannu at gynnydd mewn defnydd o fanciau bwyd yw problemau gyda’r system fudd-daliadau, newidiadau mewn bywyd neu iechyd, a diffyg cefnogaeth ffurfiol neu anffurfiol.
Rhybuddia’r elusen fod yr ystadegau’n cyfleu dim ond rhan o’r darlun yn unig, gan fod niferoedd uchel o bobol yn derbyn cymorth gan fanciau bwyd annibynnol a grwpiau cymunedol.
Mae’r Ymddiriedolaeth Trussell yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i greu cynllun fel nad oes angen banciau bwyd.
Dylai ymgeiswyr sy’n sefyll mewn etholiadau ymrwymo i weithio tuag at hyn, meddai’r elusen.
“Ni ddylai neb orfod teimlo’r anurddas o fod angen bwyd brys,” meddai Emma Revie, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Trussell.
“Er hynny, mae ein rhwydwaith o fanciau bwyd wedi rhoi’r nifer uchaf erioed o becynnau bwyd i bobol, wrth i fwy a mwy gael trafferthion, a heb ddigon o arian i brynu nwyddau hanfodol.
“Nid yw hyn yn iawn, ac rydyn ni’n gwybod y gallwn ni adeiladu gwell dyfodol. Mae’r pandemig wedi dangos y gallai’r annisgwyl ein taro yn sydyn, ond pan rydyn ni’n pwyso am newid, a gyda’n gilydd yn dymuno am gyfiawnder a thrugaredd, rydyn ni’n gwybod bod rhaid i’r Llywodraeth wrando a gweithredu.
“Gyda’n gilydd gallwn weithredu i greu dyfodol heb newyn.”
“Ffracsiwn o’r darlun”
“Mae banciau bwyd annibynnol yn parhau i weld angen diddiwedd am help, ond hyd yn oed wrth gyfuno ystadegau am fanciau bwyd annibynnol a rhai’r Ymddiriedolaeth Trussell mae’n cynrychioli ffracsiwn o’r darlun ynghylch ansicrwydd bwyd yn y Deyrnas Unedig,” meddai Sabine Goodwid, cydlynydd y Rhwydwaith Cymorth Bwyd Annibynnol.
“Nawr, yn fwy nag erioed, mae’n rhaid ailosod ein system sicrwydd cymdeithasol, blaenoriaethu rhaglenni cymorth awdurdodau lleol sy’n rhoi grantiau argyfwng, a sicrhau cyflogau digonol a gwaith sefydlog.
“Mae’n gyfrifoldeb ar y Llywodraeth i stopio newyn rhag dechrau yn y lle cyntaf fel y gall pawb fforddio prynu bwyd a nwyddau hanfodol eraill.”