Bydd Caerdydd, Casnewydd, a Gwastatiroedd Gwent yn cymryd rhan yn Her Byd Natur y Ddinas dros y penwythnos nesaf (Ebrill 30 – Mai 3), gan ymuno â 400 o ardaloedd dinesig eraill ledled y byd.
Mae’r her, sy’n digwydd am y chweched tro eleni, yn dogfennu bioamrywiaeth mewn trefi, ac yn galw ar bobol i arsylwi a chyflwyno lluniau o fywyd gwyllt trwy ap.
Bydd arbenigwyr mewn sefydliadau bywyd gwyllt yn helpu i nodi’r rhywogaethau sy’n cael eu cyflwyno drwy ap iNaturalist.
Gall pobol gymryd rhan drwy:
- Sylwi ar fywyd gwyllt, gan gynnwys planhigion gwyllt, anifeiliaid, a ffwng dros y penwythnos nesaf, gan sicrhau eu bod nhw’n cadw at reolau covid.
- Tynnu lluniau neu recordio synau bywyd gwyllt.
- Rhannu eu harsylwadau trwy lwytho’r lluniau, y recordiadau, a’r lleoliadau ar ap iNaturalist erbyn dydd Mercher Mai 5.
“Archwilio a chwrdd â’n cymdogion gwyllt”
“Rydyn ni’n gyffrous ein bod ni’n rhoi Cymru ar fap Her Byd Natur y Ddinas am y tro cyntaf,” meddai Angela Munn o’r RSPB.
“Mae dinasoedd yn llawn bywyd – ac nid dim ond yn llawn pobol! Mae’r her wyddoniaeth hwyliog hon i ddinasyddion yn ein hannog ni i archwilio a chwrdd â’n cymdogion gwyllt.
“Hyd yn oed os nad ydych erioed wedi gwneud unrhyw beth fel hyn o’r blaen, mae iNaturalist yn hawdd iawn i’w ddefnyddio a byddwn ni i gyd yn helpu ein gilydd i nodi pa ffrindiau gwyllt sy’n byw gerllaw!
“Rhowch gynnig arni – pwy a ŵyr beth y byddwn yn ei ddarganfod?”
Llywio penderfyniadau cadwraeth
Mae cronfeydd mawr o ddata sy’n cael eu casglu drwy iNaturalist, amgueddfeydd astudiaethau natur, a sefydliadau gwyddoniaeth yn helpu i lywio penderfyniadau cadwraeth.
Cafodd dros 1,300 o rywogaethau sydd mewn perygl, rhywogaethau endemig, neu rywogaethau lle nad oes digon o ddata amdanynt, eu cofnodi drwy Her Byd Natur y Ddinas y llynedd.
Ar ôl lansio’r Her Byd Natur y Ddinas am y tro cyntaf yn 2016, dyma fydd yr ymdrech ryngwladol fwyaf i Amgueddfa Astudiaethau Natur Los Angeles County ac Academi Gwyddorau Califfornia ei chynnal.
Mewn ymateb i’r pandemig, ni fydd yr her yn canolbwyntio ar gystadlu eleni, ond yn hytrach ar gydweithredu, gyda disgwyl i fwy na 41,000 o bobol gymryd rhan dros y byd.