Mae disgwyl i dafarndai a bwytai Cymru gael gweini bwyd a diod dan do o ddydd Llun Mai 17, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Fe fyddai hynny yn golygu bod y busnesau hyn yn gallu croesawu cwmseriaid i fewn i’w hadeiladau ar yr un adeg â rhai’r Alban a Lloegr.

Mae’r Llywodraeth eisoes wedi cadarnhau y bydd lletygarwch awyr agored yn cael ailagor ddydd Llun nesaf (Ebrill 26) yng Nghymru.

Dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, mai dyletswydd Llywodraeth nesaf Cymru fyddai cadarnhau’r trefniadau ar Fai 17 pan gynhelir yr adolygiad tair wythnos nesaf ar Fai 13, wythnos ar ôl etholiad Senedd Cymru ar Fai 6.

“Fy asesiad i yw y bydd y sector lletygarwch – bariau, tafarndai, bwytai a chaffis – yn gallu agor dan do o Fai 17,” meddai Mark Drakeford.

“Ynghyd â’r holl lety arall i dwristiaid, adloniant dan do ac atyniadau.”

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cadarnhau y bydd rhagor o’r cyfyngiadau yn cael eu llacio yn gynt, sef ar Fai 3 yn hytrach nag Mai 17.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Ailddechrau gweithgareddau o dan do ac o dan oruchwyliaeth ar gyfer plant
  • Gweithgareddau o dan do wedi’u trefnu ar gyfer hyd at 15 o oedolion (megis dosbarthiadau ymarfer corff a gwersi nofio)
  • Ailagor canolfannau cymunedol

Yn ogystal, mae’r Llywodraeth wedi cadarnhau’r newidiadau canlynol y bwriadwyd eu gwneud ar ddydd Llun, Mai 3:

  • Campfeydd, canolfannau hamdden a chyfleusterau ffitrwydd i gael ailagor
  • Aelwydydd estynedig i gael ffurfio unwaith eto, gydag un aelwyd arall

Bydd Mark Drakeford yn cynnal sesiwn friffio swyddogol gan Lywodraeth Cymru am y newidiadau amser cinio heddiw (dydd Gwener, Ebrill 23).

Cynllun tebyg i Loegr a’r Alban

Byddai caniatáu i dafarndai, caffis a bwytai Cymru weini dan do o Fai 17 yn debyg i’r cynlluniau yn Lloegr a’r Alban.

Yr Alban fydd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i agor tafarndai, caffis a bwytai dan do o ddydd Llun (Ebrill 26) – er na fydd hawl ganddynt i weini alcohol.

Mae disgwyl iddyn nhw gael caniatâd i wneud hynny o Fai 17.

Mae pobol yn Lloegr eisoes yn cael ymweld â’r dafarn neu gael pryd o fwyd mewn bwyty y tu allan – a allai ymestyn i’r tu mewn o Fai 17.