Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi cadarnhau y bydd lletygarwch awyr agored yn cael ailagor ddydd Llun nesaf (Ebrill 26) yng Nghymru.

Wrth i’r achosion o Covid-19 barhau i ostwng, mae’r prif weinidog hefyd wedi cadarnhau y bydd chwe unigolyn o aelwydydd gwahanol yn gallu cyfarfod yn yr awyr agored o ddydd Sadwrn (Ebrill 24) hefyd.

Ar hyn o bryd, mae modd i hyd at chwe unigolyn (heb gynnwys plant dan 11 oed neu ofalwyr) o ddwy aelwyd gyfarfod yn yr awyr agored.

O ddydd Sadwrn, bydd chwe unigolyn (heb gynnwys plant dan 11 oed neu ofalwyr) yn cael cyfarfod tu allan, heb ystyried aelwydydd.

Nid yw’r rheolau ar gyfer cyfarfod dan do yn newid.

Mae Llywodraeth Cymru’n parhau i bwysleisio y dylai unigolion gadw pellter cymdeithasol rhyngddyn nhw eu hunain a phobol sydd o aelwyd neu swigen gymorth wahanol.

Cyd-destun iechyd y cyhoedd yn “ffafriol”

“Mae’r cyd-destun o ran iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn parhau i fod yn ffafriol, gydag achosion yn gostwng ac mae ein rhaglen frechu yn dal i fynd o nerth i nerth,” meddai Mark Drakeford.

“Gan fod llai o risg yn dal i fod yn gysylltiedig â chwrdd yn yr awyr agored o’i gymharu â chwrdd dan do, rydyn ni’n gallu cyflwyno newidiadau i ganiatáu i unrhyw chwe unigolyn gwrdd yn yr awyr agored.

“Bydd hyn yn rhoi mwy o gyfle i bobl ifanc yn arbennig i gwrdd â’u ffrindiau yn yr awyr agored. Nid oes amheuaeth y bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar lesiant unigolion.

“Rydw i’n falch hefyd o gadarnhau y bydd lletygarwch awyr agored yn cael ailagor o ddydd Llun 26 Ebrill ymlaen.

“Bydd y newidiadau hyn yn helpu’r sector lletygarwch i adfer ar ôl deuddeg mis anodd.

“Diolch i ymdrechion parhaus pobl ym mhob cwr o Gymru rydyn ni’n gallu cyflwyno’r newid hwn. Gyda’n gilydd, byddwn ni’n parhau i ddiogelu Cymru.”

Galw am ailagor lletygarwch dan do

Ddydd Gwener (Ebrill 23), bydd Mark Drakeford yn cadarnhau’r trefniadau ar gyfer llacio rheolau Covid-19 ymhellach.

Cyn y cyhoeddiad hwnnw, mae Plaid Cymru wedi galw am ailagor lletygarwch dan do ar Fai 17, gan ddweud y byddai ailagor y sector yn “rhoi hwb i fusnesau Cymru”.

“Mae’r sector lletygarwch wedi dioddef mwy na nifer ers dechrau’r pandemig ac wedi dangos gwytnwch anghredadwy er gwaethaf cyfnodau o agor ac ailagor dro ar ôl tro,” meddai Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru.

“Bydd caniatáu i letygarwch ailagor dan do, gyda mesurau priodol ar waith, yn rhoi hwb i fusnesau Cymru.

“Byddai rhoi eglurder heddiw yn caniatáu amser i fusnesau gynllunio ar gyfer ailagor a sicrhau bod eu hailhagor cydymffurfio â Covid fel y gall cwsmeriaid fwynhau sector lletygarwch rhagorol Cymru unwaith eto gyda hyder llawn yn eu diogelwch.

“Mae’r mwyafrif o fusnesau yn parhau i wynebu’r tebygolrwydd o fod ar gau am fis arall, heb gefnogaeth ariannol ddigonol.

“Rhaid cyflwyno grantiau ailgychwyn, tebyg i’r rhai sydd ar gael gan Lywodraeth yr Alban yng Nghymru i helpu busnesau i ailagor yn raddol.”

Mae tasglu twristiaeth a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru wedi galw ar y prif weinidog i agor lletygarwch dan do yn gynharach, ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig am weld Cymru’n dilyn gweddill y Deyrnas Unedig.

Mae disgwyl i’r sector lletygarwch dan do ailagor yn Lloegr a’r Alban ar Fai 17.