Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi rhoi croeso gofalus i gyhoeddiad y prif weinidog Mark Drakeford ynghylch llacio’r cyfyngiadau Covid-19.

Daw hyn ar ôl iddo fe gadarnhau y bydd lletygarwch awyr agored yn cael ailagor ddydd Llun nesaf (Ebrill 26).

Wrth i’r achosion o Covid-19 barhau i ostwng, mae’r prif weinidog hefyd wedi cadarnhau y bydd chwe unigolyn o aelwydydd gwahanol yn gallu cyfarfod yn yr awyr agored o ddydd Sadwrn (Ebrill 24) hefyd.

Ar hyn o bryd, mae modd i hyd at chwe unigolyn (heb gynnwys plant dan 11 oed neu ofalwyr) o ddwy aelwyd gyfarfod yn yr awyr agored.

O ddydd Sadwrn, bydd chwe unigolyn (heb gynnwys plant dan 11 oed neu ofalwyr) yn cael cyfarfod tu allan, heb ystyried aelwydydd.

Nid yw’r rheolau ar gyfer cyfarfod dan do yn newid.

Mae Llywodraeth Cymru’n parhau i bwysleisio y dylai unigolion gadw pellter cymdeithasol rhyngddyn nhw eu hunain a phobol sydd o aelwyd neu swigen gymorth wahanol.

‘Newyddion da i’r sector lletygarwch’

“Mae hyn yn amlwg yn newyddion da i’r sector lletygarwch sydd wedi cael ei daro mor wael gan Covid, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo hwn,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Dw i eisiau i Lywodraeth Cymru sicrhau bod cymorth ariannol yn parhau i’r bariau a’r bwytai hynny sydd heb seddi awyr agored, a dw i’n galw am gefnogaeth i’r busnesau hyny sydd ond yn gallu agor yn rhannol.

“Fel cwsmeriaid, mae gennym ni oll ddyletswydd i ymddwyn yn synhwyrol ac i ddilyn y rheolau.

“Os nad ydyn ni, rydyn ni’n wynebu’r perygl gwirioneddol o gyfnod clo arall.”