Fe fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn lansio’u maniffesto ar gyfer etholiadau’r Senedd heddiw (dydd Mawrth, Ebril 20), wrth i’r arweinydd Andrew RT Davies ddweud mai hwn yw’r “etholiad Senedd pwysicaf ers cenhedlaeth”.
Daw ei sylwadau yn Western Mail cyn lansio maniffesto’r blaid yn swyddogol yn Wrecsam, wrth i’r arweinydd Andrew RT Davies ddweud bod angen “cenhedaeth genedlaethol critigol” i’r economi.
Mae’r blaid yn addo torri’r dreth incwm pe bai 65,000 o swyddi newydd yn cael eu creu erbyn 2025, sef blwyddyn etholiadau nesa’r Senedd.
Mewn datganiad, dywed y blaid y byddai’r toriad hwn yn 1c yn y £1 ar y gyfradd sylfaenol, sydd ar hyn o bryd yn gyfanswm o 20% ar gyfer enillion rhwng £12,571 a £50,270 y flwyddyn.
Mae gan y Ceidwadwyr 11 o seddi yn y Senedd ar hyn o bryd.
Bydd yr etholiadau’n cael eu cynnal ar Fai 6.
Addewidion eraill
Ymhlith addewidion eraill y blaid mae buddsoddiad o £2bn ar gyfer isadeiledd, gan gynnwys ffordd liniaru’r M4 yng Nghasnewydd – polisi a gafodd ei roi o’r neilltu gan Lywodraeth Lafur Cymru ddwy flynedd yn ôl oherwydd y gost eithriadol (tua £1.6bn).
Byddai hyn hefyd yn gweld yr A55 a’r A40 yn cael eu gwella, a mannau pweru cerbydau trydan yn cael eu sefydlu.
Byddai rhaglen ailhyfforddi yn cael ei sefydlu i helpu gweithwyr sydd wedi’u taro waethaf gan y pandemig gael gwaith yn y prif sectorau.
Yn ogystal, fe fyddai cymorth ychwanegol i feicro-fusnesau drwy dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol dau weithiwr newydd am ddwy flynedd.
A byddai asiantaeth ddatblygu busnes newydd yn cael ei sefydlu yn y gogledd.
‘Her economaidd enfawr’
“Mae gan Gymru her economaidd enfawr o’n blaenau ac all pobol sy’n gweithio ddim fforddio codiadau i drethi a phum mlynedd arall o Lafur yn cael eu cefnogi gan y cenedlaetholwyr,” meddai Andrew RT Davies.
“Mae’n bryd troi’r dudalen ar yr un hen Blaid Lafur sydd wedi galluogi problemau economaidd Cymru i fudlosgi dros y ddau ddegawd diwethaf a does ganddyn nhw ddim cynllun i drwsio pethau.
“Byddwn yn rhoi terfyn ar gynlluniau Llafur am ymosodiad trethi ar wyliau ‘aros gartref’, ar yrru a pharcio eich car yn y gweithle, gyda’r naill beth na’r llall ddim er lles Cymru.
“Yn hytrach, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn gosod Cymru ar y ffordd tuag at adferiad gyda ffocws diflino ar dyfu ein heconomi fel y gallwn ni gyflwno Cymru well sydd o fudd i bobol sy’n gweithio’n galed a’u teuluoedd yng Nghymru.