Mae pobol yn cael eu hannog i osgoi traeth Nefyn yn dilyn tirlithriad yno ddoe (dydd Llun, Ebrill 19).

Dywed Gwylwyr y Glannau eu bod nhw wedi derbyn galwad “wedi 12:30 i adroddiad o gwymp clogwyn yn nhraeth Nefyn”.

Mae’n debyg bod gerddi rhai trigolion wedi cael eu taro gan y tirlithiad, tra bod adroddiadau hefyd fod trigolion o leiaf un tŷ wedi cael rhybudd i adael eu cartref.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru wrth bobol i “osgoi’r ardal”.

“Rydym yn ymwybodol fod pobl yn ymgasglu i dynnu lluniau,” meddai’r llu mewn datganiad.

“Cynghorir y cyhoedd i osgoi’r ardal hyd nes y clywir yn wahanol, tra mae’r gwasanaethau brys a chwmnïau cyfleustodau yn diogelu’r ardal.”

“Rhan sylweddol o’r clogwyn wedi syrthio”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd brynhawn Llun fod “tirlithriad sylweddol wedi effeithio traeth Nefyn gyda rhan sylweddol o’r clogwyn wedi syrthio ar y traeth”.

“Mae swyddogion Cyngor Gwynedd ar y safle efo’r heddlu ac mae camau diogelwch wedi eu cymryd yn cynnwys cyfyngu mynediad i rannau o’r traeth,” meddai wedyn.

“Mae trefniadau ar gyfer cynnal archwiliad cychwynnol o’r clogwyn yn ei le ac rydym yn annog pobol i gadw’n glir ac i beidio mynd yn agos i ardal y gwymp ar hyn o bryd.”