Mae’r rheithgor yn achos plismon sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio George Floyd, dyn croenddu ym Minneapolis, yn ystyried eu dyfarniad.

Mae’r barnwr eisoes wedi gwrthod dadl cyfreithwyr Derek Chauvin nad yw’r achos yn ddilys yn seiliedig yn rhannol ar sylwadau Maxine Waters, cynrychiolydd Califfornia, y gallai protestwyr ddigio os nad oes rheithfarn euog.

Dywedodd y barnwr fod ei sylwadau’n “amharchus tuag at y gyfraith a’r farnwriaeth”.

Wrth grynhoi eu dadleuon, dywedodd erlynwyr ddoe (dydd Llun, Ebrill 20) fod Derek Chauvin wedi gwasgu’r bywyd allan o George Floyd wrth wasgu ei wddf â’i benglin fis Mai y llynedd, gan anwybyddu’r bobol o’i gwmpas, ei hyfforddiant a synnwyr cyffredin.

Mae cyfreithwyr Chauvin yn dadlau iddo fe weithredu’n briodol ac y bu farw George Floyd o ganlyniad i afiechyd y galon a defnydd anghyfreithlon o gyffuriau.

Ond mae erlynwyr yn dweud fod “rhaid” fod Chauvin yn gwybod ei fod e’n gwasgu’r bywyd allan ohono fe wrth iddo lefain ar lawr cyn stopio anadlu.

Mae fideo’n dangos y plismon yn gwasgu ei wddf am naw munud a 29 eiliad wrth i bobol o’u cwmpas weiddi arno i roi’r gorau iddi.

Ond mae ei gyfreithwyr yn dweud bod Chauvin wedi gwneud yr hyn y byddai unrhyw blismon “rhesymol” wedi’i wneud.

Y cyhuddiadau

Mae Derek Chauvin, 45, wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth o’r ail radd, llofruddiaeth o’r drydedd radd a dynladdiad o’r ail radd.

Er mwyn profi’r cyhuddiadau, mae’n rhaid i’r rheithgor ddod i’r casgliad fod gweithredoedd Derek Chauvin yn “ffactor sy’n achos sylweddol” ym marwolaeth George Floyd a’i fod e wedi defnyddio grym afresymol.

40 mlynedd o garchar yw’r ddedfryd fwyaf am lofruddiaeth fwriadol o’r ail radd, 25 mlynedd ar gyfer marwolaeth o’r drydedd radd, a deng mlynedd am ddynladdiad o’r ail radd.