Fe fydd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, yn ymweld â fferm ger Caerfyrddin heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 20) i lansio maniffesto “fydd yn diogelu, amddiffyn a hyrwyddo’r Gymru wledig”.
Ar drothwy ei ymweliad â Fferm Hafod Wen yn Johnstown, dywedodd fod y blaid “yn cydnabod y cyfraniad aruthrol y mae’r sector amaethyddol yn ei wneud i Gymru yn economaidd, yn amgylcheddol, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol”.
Mae’n addo y byddai Plaid Cymru, pe baen nhw’n dod yn blaid lywodraeth yn y Senedd, yn gweithio “er budd, nid yn groes, i’n cymunedau gwledig ehangach”.
Ymhlith y meysydd sy’n cael sylw yn y maniffesto mae Rheoliadau PPN, Cynhyrchu Bwyd Cymru, Troseddau Gwledig a hyrwyddo cynnyrch Cymreig ledled y byd.
‘Dyfodol gwell y mae ein cymunedau gwledig yn ei haeddu’
Yn ôl Adam Price, mae’r maniffesto’n cynnig y “dyfodol gwell y mae ein cymunedau gwledig yn ei haeddu”.
“Byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod ein system fwyd yn gweithio er budd ein ffermydd teuluol a’n cynhyrchwyr a’n proseswyr lleol drwy wneud Cymru’n fwy hunangynhaliol,” meddai.
“Mae angen cadwyni cyflenwi bwyd byrrach arnom a mwy o gapasiti i dyfu, prosesu, dosbarthu a gwerthu ein cynnyrch ein hunain.
“Dyna pam y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn diwygio caffael cyhoeddus fel bod ysgolion, ysbytai a swyddfeydd y cyngor yn blaenoriaethu prynu bwyd a gynhyrchir yng Nghymru.
“Byddem hefyd yn creu ac yn hyrwyddo brand swyddogol ‘Gwnaethpwyd yng Nghymru’ a fydd yn cael ei gario gan unrhyw gynnyrch neu wasanaeth lle mae 50 y cant o’r gwerth yn cael ei greu yng Nghymru.
“Mae gan ein gwlad rai o’r cynnyrch gorau yn y byd a byddai llywodraeth Plaid Cymru yn gwneud mwy i’w hyrwyddo ar draws y byd.
“Gwyddom fod cymunedau gwledig yn cael eu taro’n galed gan argyfwng yr ail gartrefi a dyna pam y bydd polisi Plaid Cymru i ddarparu 50,000 o gartrefi fforddiadwy a chymdeithasol yn gwella’r ddarpariaeth o gartrefi i bobl leol.”
Llafur a’r Ceidwadwyr ‘wedi siomi ffermwyr a’r sector amaethyddol ehangach’
Yn ôl Llyr Gruffydd, llefarydd materion gwledig y blaid ac ymgeisydd De Clwyd, “mae Llafur a’r Torïaid wedi siomi ffermwyr a’r sector amaethyddol ehangach”.
“Byddai llywodraeth Plaid yn dirymu’r rheoliadau ‘NVZ’ annheg ac anghymesur a gyflwynwyd gan Lafur ac yn gweithio i amddiffyn cynhyrchwyr bwyd Cymru rhag y rhwystrau masnach a godwyd gan Brexit caled y Torïaid,” meddai.
“Byddem hefyd yn cyflwyno cynllun newydd i’r PAC a fyddai’n gwarantu taliad cymorth sylfaenol i ffermwyr gynnig mwy o sefydlogrwydd economaidd i’r diwydiant ar yr adeg heriol hon.
“Maes arall lle byddai llywodraeth Plaid Cymru yn helpu ein cymunedau gwledig yw mynd i’r afael â throseddu.
“Drwy weithio gyda’n Comisiynwyr Heddlu a Throseddu byddem yn cynyddu capasiti ein timau troseddau gwledig. Byddem hefyd yn mynnu mwy o bwerau i fynd i’r afael â throseddau gwledig, yn enwedig dwyn o ffermydd a diogelu da byw rhag ymosodiadau gan gŵn.
“Mae hon yn gyfres eang o addewidion sy’n dangos bod Plaid Cymru yn gadarn ar ochr cymunedau gwledig.
“Rydym yn deall yr heriau ac rydym wedi ymrwymo i ddiogelu, amddiffyn a hyrwyddo’r Gymru wledig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”