Mae Llywodraeth San Steffan yn bwriadu cyhoeddi toriadau mwy serth i allyriadau carbon y Deyrnas Unedig wrth iddyn nhw baratoi i gynnal uwchgynhadledd ryngwladol Cop26 ar newid hinsawdd yn ddiweddarach eleni.
Mae disgwyl i Boris Johnson, prif weinidog Prydain, ymrwymo i leihau allyriadau gan 78% erbyn 2035 o’u cymharu â lefelau 1990.
Mae disgwyl y cyhoeddiad cyn yr uwchgynhadledd fawr yn yr Unol Daleithiau ddydd Iau (Ebrill 22), lle bydd yr Arlywydd Joe Biden nodi targed newydd yn yr Unol Daleithiau ar gyfer lleihau allyriadau.
Byddai’n gam sylweddol ymlaen ar ymrwymiad presennol y Deyrnas Unedig i leihau allyriadau gan 68% erbyn 2030.
Byddai’r targed newydd yn cyd-fynd ag argymhellion y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, a gafodd eu cyhoeddi y llynedd, ar gyfer chweched gyllideb garbon y Llywodraeth.
Yn eu hadroddiad, dywedodd y pwyllgor y bydden nhw, i bob pwrpas, yn cyflwyno ymrwymiad y Deyrnas Unedig i sicrhau gostyngiad o 80% o fewn 15 mlynedd.
Er mwyn ei gyflawni, dywedodd y pwyllgor y byddai’n rhaid cael mwy o gerbydau trydan, ymestyn cynhyrchu ynni gwynt y môr, lleihau’r defnydd o gig a llaeth a phlannu coedwigoedd newydd.
Daw hyn ar adeg pan fo’r Llywodraeth yn awyddus i roi arweiniad clir ar newid yn yr hinsawdd yn y cyfnod cyn trafodaethau Cop26 yn Glasgow ym mis Tachwedd.
Dywed yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol y bydd gweinidogion yn gwneud cyhoeddiad “cyn bo hir”.
“Byddwn yn gosod ein huchelgais ar gyfer cyllideb garbon chwech cyn bo hir, gan ystyried y cyngor diweddaraf gan y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd,” meddai llefarydd ar ran yr adran.
“Nid yw’r Llywodraeth hon yn cyflawni’r dasg”
Dywed Ed Miliband, llefarydd busnes Llafur, fod y llywodraeth wedi methu dro ar ôl tro â pharu addewidion uchelgeisiol ar allyriadau gyda gweithredu effeithiol ar lawr gwlad.
“Er mai cryfhau ein targedau yw’r peth iawn i’w wneud, ni ellir ymddiried yn y Llywodraeth i baru rhethreg â realiti,” meddai.
“Mae angen Llywodraeth arnom sy’n trin yr argyfwng hinsawdd fel yr argyfwng yw e.
“Eleni, fel gwesteion Cop26, mae gan y Deyrnas Unedig gyfrifoldeb penodol i arwain y byd a dangos y ffordd ymlaen am ddyfodol gwyrddach.
“Nid yw’r Llywodraeth hon yn cyflawni’r dasg.”