Fe gododd diweithdra yng Nghymru 3,000 yn y tri mis hyd at Chwefror i 123,000, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Mae’r gyfradd yn 4.8%, sy’n cymharu â chyfradd ddiweithdra o 4.9% ar gyfer y Deyrnas Unedig.

Mae’r data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) hefyd yn dangos bod 18,000 yn fwy o bobol yn ddi-waith na’r un adeg flwyddyn yn ôl.

Roedd cyflogaeth hefyd 12,000 yn uwch na’r tri mis hyd at fis Tachwedd a 5,000 yn uwch na’r un cyfnod flwyddyn yn ôl.

Wrth ymateb, dywedodd Russell George, llefarydd economi’r Ceidwadwyr Cymreig, fod “coronafeirws wedi cael effaith fawr ar Gymru ac wedi amlygu pa mor fregus yr ydym yn economaidd ar ôl 22 mlynedd o Lafur mewn llywodraeth”.

“Mae angen newid yng Nghymru gan na allwn fforddio pum mlynedd arall o’r un hen Lafur yn methu â chyflawni, a dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sydd â chynllun i gael ein heconomi ar y ffordd i adferiad gyda 65,000 o swyddi newydd a buddsoddiad o £2 biliwn yn ein hisadeiledd,” meddai wedyn.