Mae mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RhAG) yn dweud bod diffyg cynllunio lleoedd Addysg Gymraeg gan Gyngor Sir Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr yn llesteirio twf y Gymraeg yn y sir.
Mae’r mudiad yn galw ar y Cyngor Sir i weithredu ar frys i sicrhau lleoedd lleol digonol i ddisgyblion sy’n gwneud cais am addysg Gymraeg ar gyfer Medi.
Mae teulu o ardal Pencoed wedi cael cadarnhad nad oes lle i’w plentyn yn Ysgol Gymraeg Bro Ogwr ar gyfer mis Medi, ac mae’r grŵp Rhieni Dros Addysg Gymraeg lleol wedi datgan eu siom bod y cyngor wedi methu â chydnabod difrifoldeb y sefyllfa yn yr ardal.
Yn ôl y mudiad, mae’r newyddion yn cadarnhau eu pryderon nad oes cynllunio digonol wedi bod er mwyn sicrhau bod digon o leoedd i ddisgyblion yn ysgolion Cymraeg yr ardal.
Er eu bod nhw wedi codi pryderon yn ddiweddar dros y misoedd diwethaf, mae sicrwydd dilyniant o’r blynyddoedd cynnar i addysg gynradd yn awr yn y fantol, meddai RhAG, .
“Wedi ein siomi”
Fe wnaeth Catrin Davies gysylltu â RhAG i nodi ei phryderon na fydd modd i’w mab, sydd wedi bod yn ddisgybl dosbarth meithrin yn Ysgol Gymraeg Bro Ogwr ers blwyddyn, symud i fyny i’r dosbarth derbyn gan nad oes digon o le iddo.
Ysgol Gymraeg Bro Ogwr yw’r ysgol Gymraeg agosaf i’w cartref ym Mhencoed, ac mae’r ysgol Gymraeg nesaf dros saith milltir o’u cartref.
Gan eu bod nhw’n byw mor bell o’r ysgol honno, yn ôl meini prawf y polisi derbyn, does dim sicrwydd y bydd lle yno chwaith.
“Dechreuodd Billy yn y Cylch Meithrin lleol ym Mhencoed a symud yn naturiol i’r ysgol Gymraeg agosaf,” esbonia Catrin Davies.
“Mae Billy wedi setlo’n dda yn Ysgol Gymraeg Bro Ogwr a doedden ni byth wedi meddwl y byddai’n mynd i unrhyw ysgol arall gan taw’r ysgol hon yw ein hysgol Gymraeg leol agosaf – yr unig opsiwn i ni.
“Rydyn ni wedi ein siomi gan Sir Pen-y-bont gan nad ydynt wedi sicrhau bod digon o lefydd ysgolion Cymraeg ar gael i ni yn yr ardal hon.
“Rydyn ni am i Billy fynd i’r ysgol gynradd gyda ffrindiau sydd yn byw yn ein hardal leol ni ac rydyn ni am iddo gael addysg Gymraeg lleol.
“Dwi’n cwestiynu hefyd os oes teuluoedd eraill lleol wedi derbyn y sefyllfa a heb holi ymhellach? Faint mwy o deuluoedd sydd am addysg Gymraeg yn yr ardal?”
“Rhwng dwy stôl”
“Mae cenhedlaeth arall o blant sydd am addysg Gymraeg yn yr ardal hon yn mynd i golli allan unwaith eto ar y cyfle i gael y ddwy iaith o’r cychwyn,” meddai Elin Mannion, o fudiad RhAG Pen-y-bont ar Ogwr.
“Nid yw ymdrechion Sir Pen-y-bont wedi dangos unrhyw arwyddion o gyfrannu at weledigaeth Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg.
“Pan ddaeth Eisteddfod yr Urdd i’r ardal yn 2017, roedd cyffro mawr i sicrhau gwaddol y gwaith hwnnw gan drigolion lleol.
“Pedair blynedd yn ddiweddarach ac nid yw’r ddarpariaeth wedi cynyddu o gwbl. Rydyn ni’n siomedig iawn nad yw’r sir wedi deall pwysigrwydd cynllunio a hyrwyddo. Mae teuluoedd ardal Pencoed rhwng dwy stôl.
“Os yw Pencoed yn rhy bell o Ysgol Bro Ogwr byddant dan fwy o anfantais i gyrraedd ysgolion eraill a hynny oherwydd y pellter.”
Cyfrifoldeb i gynyddu’r niferoedd sy’n derbyn Addysg Gymraeg
Mae RhAG yn galw ar Gyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr i ddarparu lleoedd lleol brys i bawb sydd wedi gwneud cais i ysgolion Cymraeg y sir ym mis Medi.
“Mae gan holl Awdurdodau lleol gyfrifoldeb o dan Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg i fod yn cynllunio’n rhagweithiol gogyfer â chynyddu’r niferoedd o ddisgyblion sy’n derbyn Addysg Gymraeg yn eu siroedd,” meddai Elin Maher o fudiad cenedlaethol Rheini Dros Addysg Gymraeg.
“Ond y mae Sir Pen-y-bont ar Ogwr – er y trafodaethau dros y flwyddyn a mwy ddiwethaf gyda ni fel mudiad, yn parhau heb symud ymlaen ag unrhyw gynllun arwyddocaol i gynyddu niferoedd sy’n derbyn addysg Gymraeg ac felly dyma ni’n gorfod adweithio ar frys ac yn rhoi teuluoedd pryderus trwy brosesau apêl diangen.
“Rhaid i’r cynnig addysg lleol fod yn eglur ac yn gyfartal a rhaid i Sir Pen-y-bont ar Ogwr weithio’n rhagweithiol i ddatblygu addysg Gymraeg fel ei fod ar gael yn hwylus i bob cymuned – o Gymoedd Llynfi, Garw ac Ogwr i Borthcawl a Chynffig.”
Mae RhAG wedi codi’r pryderon gydag arweinydd y Cyngor Sir, Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru, a Chomisiynydd y Gymraeg.