Mae’r rheithgor yn achos dyn sydd wedi cael ei gyhuddo o dwyllo Gerald Corrigan, a gafodd ei lofruddio â bwa saeth ar Ynys Môn ym mis Ebrill 2019, wedi cael ei ryddhau o’u dyletswyddau.

Mae Richard Wyn Lewis, sy’n 50 oed, wedi cael ei gyhuddo o dwyll gwerth £200,000 yn erbyn Gerald Corrigan.

Dechreuodd yr achos yn ei erbyn yn Llys y Goron yr Wyddgrug yr wythnos ddiwethaf, ond cafodd y rheithgor eu rhyddhau ddoe (Ebrill 19) am resymau iechyd.

Clywodd y llys fod yr achos wedi’i ohirio tan Ionawr 10 y flwyddyn nesaf.

Mae Richard Wyn Lewis, sy’n dod o Lanfair-yn-Neubwll ger Caergybi, yn gwadu wyth cyhuddiad o dwyll.

Mae ei bartner, Siwan Maclean, 51, yn gwadu cyhuddiad ei bod wedi ymrwymo i gytundeb gwyngalchu arian.

Cafodd y cwpwl eu cyhuddo wedi i’r heddlu gynnal ymchwiliad i dwyll yn dilyn marwolaeth Gerald Corrigan, oedd yn 74 oed.

Yr wythnos ddiwethaf, clywodd y llys fod Richard Wyn Lewis wedi derbyn miloedd o bunnoedd gan Gerald Corrigan a’i bartner Marie Bailey, gan honni ei fod yn mynd tuag at ddatblygu eiddo a phrynu ceffylau.

Clywodd y rheithgor nad oedd llofruddiaeth Gerald Corrigan yn ddim i’w wneud â’r achos, ond daeth yr honiadau o dwyll i’r amlwg pan gafodd Marie Bailey ei chyfweld gan yr heddlu ar ôl y saethu.

Llys yn clywed fod pensiynwyr wedi’u gadael heb geiniog ar ôl rhoi £200,000 i dwyllwr

“Drwyddi draw, collodd pobol eu harian ac roedd Richard Wyn Lewis yn ei gadw”