Mae gweithiwr dyngarol o Abertawe, sydd wedi cael cydnabyddiaeth lu yn lleol ac yn genedlaethol am ei waith elusennol, yn dweud y dylai Llywodraeth Prydain egluro’n well pa bobol sydd wedi’u heithrio o dalu am brofion Covid er mwyn cael teithio.

Daw hyn yn dilyn dryswch oedd wedi arwain at ei gadw Nizar Neezo Dahan a’i gydweithwyr yn gaeth ym maes awyr Istanbul am 16 awr.

Mae saith ohonyn nhw bellach wedi glanio’n ôl yn Llundain, ond mae un arall wedi’i gadw yn y maes awyr yn Nhwrci o hyd ac fe fydd yn rhaid iddo aros 24 awr cyn cael dod adref.

Mae’r dryswch yn ymwneud ag eithriadau rhag talu am brofion Covid cyn teithio, a phwy sy’n gyfrifol am weinyddu’r eithriadau – mae gan y Swyddfa Gartref gyngor ar eu gwefan, ond mae’n ymddangos mai’r Swyddfa Dramor sy’n gyfrifol am weinyddu’r drefn.

Wrth siarad â golwg360 o faes awyr Istanbul neithiwr (nos Lun, Ebrill 19), dywedodd Neezo, sy’n gweithio i elusen Salam UK, ei fod e a chriw o gydweithwyr wedi cael eu hatal rhag dod adref o’r maes awyr tan eu bod nhw’n talu £180 y pen am brofion Covid.

Mae’n teimlo ei fod e wedi cael ei arwain i gredu y dylai e a’i gydweithwyr fod wedi cael eu heithrio fel gweithwyr dyngarol – ond mae golwg360 wedi cael ar ddeall gan y Swyddfa Gartref nad yw gweithwyr dyngarol wedi’u heithrio rhag gorfod talu am brofion, er bod eithriadau rhag gorfod cael rhai dogfennau teithio eraill.

Mae Neezo wedi bod yn gweithio i elusen Salam yn Libanus, yn darparu bwyd, gofal iechyd a lloches i bobol sy’n dal i deimlo effeithiau ffrwydrad sylweddol yn Beirut fis Awst y llynedd.

Mae Libanus ar ymyl y dibyn, heb lywodraeth ers i holl aelodau’r Cabinet ymddiswyddo yn sgil y ffrwydrad, ac mae ei heconomi’n crebachu’n sylweddol yn ystod argyfwng gwaetha’r wlad ers y rhyfel cartref rhwng 1975 a 1990.

Roedd y criw ar eu ffordd yn ôl o Libanus pan gawson nhw eu herio gan swyddogion ym maes awyr Istanbul, lle’r oedden nhw’n aros am hediad i gwblhau ail ran eu taith adref brynhawn ddoe (dydd Llun, Ebrill 19).

Dydy Libanus ddim yn un o’r dwsinau o wledydd ar restr ‘goch’ Covid-19 Llywodraeth Prydain sy’n cyfyngu ar hawl pobol i deithio rhwng y gwledydd hynny a gwledydd Prydain.

‘Rydyn ni’n cael ein cadw’n garcharorion’

“Rydyn ni’n cael ein cadw’n garcharorion,” meddai Neezo wrth golwg360.

“Dw i ar y ffordd yn ôl o daith yn rhoi cymorth dyngarol yn Libanus lle rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda ffoaduriaid Palesteinaidd Syria a’r gymuned Balesteinaidd.

“Dyma fy ail daith i Libanus yn ystod y tair wythnos diwethaf, a fis diwethaf, ro’n i yn Ghana yn gweithio ar brosiectau dŵr ac addysg.

“Rydyn ni wedi recriwtio 22 o wirfoddolwyr ar gyfer y daith ac fe wnaethon ni gysylltu â’r Swyddfa Gartref ar Ebrill 1 i ofyn iddyn nhw am eithriadau ar gyfer sefydliadau dyngarol oherwydd does dim rhaid i ni fynd i gwarantîn na chael profion [Covid-19] ail ddiwrnod ac wythfed diwrnod oherwydd natur ein gwaith.

“Mae’n hanfodol ein bod ni’n gallu teithio er mwyn cwblhau ein gwaith.”

Mae golwg360 wedi gweld copi o ohebiaeth rhwng Neezo a swyddog yr asiantaeth ffiniau sy’n nodi bod eithriadau ar gyfer “cenhadon diplomyddol a chonswlaidd yn y DU, swyddogion, gweision neu gynrychiolwyr sefydliadau rhyngwladol, cynrychiolwyr mewn cynhadledd ryngwladol neu yn y DU sydd â breintiau ac imiwnedd, a’u teuluoedd neu rai sy’n ddibynnol arnynt”.

Mae’r ohebiaeth yn nodi fod unrhyw eithriad yn ddibynnol ar gydsyniad y Swyddfa Dramor.

Ond roedd Neezo dan yr argraff fod y criw wedi’u heithrio fel “cynrychiolwyr sefydliad rhyngwladol”.

Yn ôl Neezo, cafodd yr elusen gadarnhad gan y Swyddfa Gartref o’r eithriad ar Ebrill 17.

Dywedodd fod yr eithriadau perthnasol wedi cael eu nodi’n glir ar wefan y Swyddfa Gartref, ond ei fod yn disgwyl cryn oedi cyn y byddai’r criw yn cael ateb pellach ganddyn nhw am y sefyllfa.

Nizar Neezo Dahan (ar y dde) a’i gydweithwyr ym maes awyr Istanbul

Yn y maes awyr

Roedd swyddogion y maes awyr yn mynnu nad oedd gan aelodau staff yr elusen y ddogfennaeth briodol i gael eu heithrio rhag gorfod talu am brofion Covid ail ac wythfed diwrnod fel rhan o fesurau cwarantîn rhyngwladol.

Ond er syndod i Neezo, cafodd y gwirfoddolwyr fynediad i’r awyren i gael dod adref tra bod y staff yn cael eu cadw yn y maes awyr.

Mae’n poeni oherwydd, fel aelod o staff, mae ganddo fe a’i gydweithwyr gyfrifoldeb am y gwirfoddolwyr oedd wedi cael dod adref ar eu pennau eu hunain.

“Fe wnaethon ni gyrraedd Twrci ac wrth i ni drio mynd ar ein hediad nesaf, fe wnaethon nhw atal ein staff rhag mynd drwodd, oedd yn golygu bod rhaid i’r gwirfoddolwyr fynd ar yr awyren heb staff gyda nhw, ac maen nhw’n cael eu hanfon yn ôl i’r Deyrnas Unedig ar eu pennau eu hunain ond gyda’n bagiau ni ac ati,” meddai Neezo wedyn.

“A nawr, mae wyth aelod o staff o’n sefydliad ni yn gorfod aros yn y maes awyr, a dydyn ni ddim yn gallu mynd drwodd i gael bwyd ac ati.”

Ond roedd yn benderfynol ar ddechrau’r noson na fydden nhw’n talu i gael prawf.

“Does gan Turkish Airlines ddim awdurdod a does ganddyn nhw ddim hawl i orfodi hyn arnon ni oherwydd rydyn ni wedi dangos digon o ddogfennaeth iddyn nhw i ddweud ein bod ni wedi ein heithrio o’r profion a’r cwarantîn oherwydd natur ein gwaith.”

Ar ôl mwy na naw awr, roedd y criw yn dal yn y maes awyr, ac fe gawson nhw rybudd y byddai’n rhaid iddyn nhw fynd i gwarantîn am 14 diwrnod pe baen nhw’n gadael y safle.

“Dywedon nhw [criw’r maes awyr] y bydden nhw’n trefnu gwesty ac roedden ni’n mynd i fynd allan.

“Ar ôl aros am bedair awr ar ôl i ni dalu, fe wnaethon nhw roi pàs i ni [i fynd ar yr awyren] ac roedden ni’n mynd i fynd allan.

“Pan gyrhaeddon ni’r ddesg dollau, dywedon nhw ‘os gwnewch chi hynny, bydd rhaid i chi wneud cwarantîn am 14 diwrnod’.

Ymprydio â chyflyrau iechyd

Eglurodd Neezo fod nifer o griw’r elusen yn Fwslimiaid ac felly, maen nhw’n ymprydio yn ystod mis sanctaidd Ramadan.

Daw’r ymprydio i ben ar adeg machlud haul, pan fo disgwyl i addolwyr gael rhywbeth i’w fwyta, ond pan siaradodd golwg360 â Neezo neithiwr (nos Lun, Ebrill 19), doedd y criw ddim wedi cael cynnig unrhyw beth i’w fwyta yn yr oriau ers iddyn nhw fod yn y maes awyr.

Ar ben hynny, roedd yn poeni am iechyd rhai o’r criw sydd â chlefyd siwgr a chlefyd y galon.

“Mae rhai o’n tîm ni’n ymprydio, dydyn nhw ddim wedi dod â bwyd i ni gael dod â’r ympryd i ben, allwn ni ddim gadael yr ardal fach hon ac maen nhw’n dweud “naill ai mae’n rhaid i chi dalu am y prawf corona neu fyddwch chi ddim yn gadael yr ardal hon o’r maes awyr”.

“Mae gan un o’n criw ni glefyd siwgr, mae ei feddyginiaeth yn ei gês a dydy e ddim yn gallu cael mynediad iddyn nhw.

“Mae gan aelod arall o’n staff ni broblemau â’i galon ac rydyn ni jyst ar y meinciau a chadeiriau plastig yma.

“Maen nhw jyst yn dweud, ‘Talwch neu chewch chi ddim gadael’.

“Rydyn ni’n trio siarad â nhw ac maen nhw’n dweud yr un peth drosodd a throsodd ac yn dal i ddanfon aelodau o staff uwch sydd i gyd yn dweud yr un peth – ‘talwch neu chewch chi ddim mynd i unman’.”

Mae’r criw bellach wedi talu £180 yr un am brawf er mwyn sicrhau bod modd i’r rhai sy’n sâl yn y maes awyr gael dod adref cyn gynted â phosib.

Cydweithwyr Nizar Neezo Dahan ym maes awyr Istanbul

“Mae hi braidd yn hwyr nawr,” meddai am obeithion y criw o gael ateb brys i’r sefyllfa.

“Rydyn ni wedi e-bostio rhywun mae gyda ni gysylltiad â nhw yn y Swyddfa Gartref ond y tro diwethaf, cymerodd hi dridiau iddo fe ateb.

“Os yw’n cymryd deuddydd neu dri iddo fe ateb, yma fyddwn ni.”

Y dyfodol

Yn ôl Neezo, mae’r sefyllfa bresennol yn destun pryder gyda rhagor o deithiau ar y gweill i’r elusen.

“Dyma ein hail daith i Libanus yn ystod y bythefnos nesaf, mae gyda ni un arall ar y gweill ymhen saith diwrnod,” meddai.

“Rydyn ni wedi codi dros £5,000 ar gyfer ffoaduriaid ac fe fydd hyn yn amharu ar ein gallu ni i gefnogi miloedd o bobol ar draws y byd.”

Mae’n galw ar Lywodraeth Prydain i ddatrys y sefyllfa cyn gynted â phosib.

“Mae angen i’r Llywodraeth wneud safiad ar hyn oherwydd eu cyfraith nhw yw hyn ac mae’r hyn maen nhw wedi’i ysgrifennu ar eu gwefan yn amlwg iawn yn ein heithrio ni.

“Mae’r llythyr wnaethon ni ei dderbyn gan y Swyddfa Gartref yn amlwg yn ein heithrio ni ond eto, mae Turkish Airlines yn dweud bod eu cysylltiadau nhw yn Llundain wedi siarad â’r adran fewnfudo a bod yr adran wedi dweud wrthyn nhw fod rhaid iddyn nhw wneud hyn.

“Felly mae gwir angen i Lywodraeth Prydain gamu i fyny. Mae amwysedd eu rheolau a’u safiad ar y coronafeirws wedi arwain at hyn heddiw.”

Ymateb

Yn ôl Neezo, er bod swyddogion yn Istanbul wedi rhoi caniatâd iddyn nhw deithio, roedd rheolwr Turkish Airlines yn y Deyrnas Unedig wedi eu hatal rhag mynd ar yr awyren ar ôl i’r maes awyr gysylltu â nhw.

Roedd hyn er bod staff y maes awyr wedi gweld llythyr gan y Swyddfa Gartref roedd Neezo yn honni oedd yn eu heithrio nhw rhag talu am brawf Covid.

Dywedodd llefarydd ar ran Turkish Airlines wrth golwg360 nad ydyn nhw’n “rhoi gwybodaeth am eu teithwyr oherwydd y mesurau diogelwch sydd yn eu lle”.

Wrth ymateb i gais gan golwg360 am eglurhad, dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref nad yw sefydliadau dyngarol wedi’u heithrio o dalu am brofion Covid-19 cyn cael yr hawl i ddychwelyd adref.

“Syfrdanol,” oedd ymateb Nizar Neezo Dahan i sylwadau’r Swyddfa Gartref, gan ychwanegu, “Pam na wnaethon nhw ddweud hyn wrthym ni o’r blaen?

“Mae angen iddyn nhw fod yn glir iawn am hyn a pheidio â chamarwain sefydliadau dyngarol.”

Dywedodd y Swyddfa Gartref ymhellach y dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau pellach at y Swyddfa Dramor.

Dywed Neezo y “bydd gyda ni gwestiynau i’r llywodraeth” ac na fydd y criw “fyth yn hedfan gyda Turkish Airlines eto”, gan egluro fod pawb bellach wedi gorfod talu am brofion a dogfennaeth briodol a bod yr un sydd wedi’i gadw yn Istanbul wedi dilyn yr un drefn, ond heb gael mynediad i’r awyren.