Mae pôl piniwn newydd yn awgrymu bod y Blaid Lafur ymhell ar y blaen yn etholiadau’r Senedd.

Mae’r pôl, sydd wedi’i gynnal gan yr Opinium ar ran Sky News, yn darogan fod Llafur am ennill 29 sedd, un yn brin o ennill mwyafrif, y Ceidwadwyr am ennill 19 sedd, Plaid Cymru am ennill 10, a’r Democratiaid Rhyddfrydol ac Ukip am ennill un yr un.

Mae canfyddiadau’r pol yma yn wahanol iawn i ganfyddiadau polau diweddar gan YouGov, sy’n awgrymu ei bod hi’n ras agos rhwng y Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr.

Roedd y polau hynny yn awgrymu y byddai’r Blaid Lafur yn colli wyth sedd.

Canfyddiadau

Mae pôl yr Opinium yn awgrymu y byddai’r newidiadau fel a ganlyn yn yr etholaethau, o gymharu ag etholiad 2016:

Llafur: 40% (+5)

Ceidwadwyr: 30% (+9)

Plaid Cymru: 19% (-2)

Democratiaid Rhyddfrydol: 4% (-4)

Ar y rhestr ranbarthol, mae’r gefnogaeth a’r newidiadau ers etholiad 2016 fel a ganlyn:

Llafur: 38% (+6)

Ceidwadwyr: 27% (+7)

Plaid Cymru: 19% (-2)

Y Blaid Werdd: 5% (+2)

Democratiaid Rhyddfrydol: 4% (-3)

UKIP: 2% (-11)

Dywedodd 29% mai Mark Drakeford fyddai eu dewis cyntaf nhw fel Prif Weinidog, daeth Andrew RT Davies yn ail, gyda 10% yn ei gefnogi, ac Adam Price yn drydydd gydag 8% o’r gefnogaeth.

Wrth hepogor y rhai a ddywedodd nad oedden nhw’n gwybod, dywedodd 35% y bydden nhw’n pleidleisio dros annibyniaeth.

Awgryma’r pôl y byddai 46% o gefnogwyr y Blaid Lafur yn pleidleisio dros annibyniaeth.

Dangosodd pôl diweddar gan YouGov fod 51% o gefnogwyr Llafur yn cefnogi annibyniaeth.