Mae Mabon ap Gwynfor, ymgeisydd etholiadol Plaid Cymru ar gyfer Dwyfor Meirionnydd, wedi rhybuddio bod tirlithriad Nefyn yn arwydd o ddifrifoldeb yr argyfwng hinsawdd.

Mae’n galw am gymryd camau cadarn rŵan i fynd i’r afael â newid hinsawdd fyd-eang.

Daw hyn ar ôl y tirlithiad ar draeth Nefyn ddoe (dydd Llun, Ebrill 19), sydd wedi difrodi gerddi rhai trigolion yn ogystal â gorfodi trigolion o leiaf un tŷ i adael eu cartref.

Mae gwaith asesu a diogelu bellach yn digwydd ar y traeth, ond mae’r heddlu a Chyngor Gwynedd yn parhau i annog pobol i gadw draw o’r safle wrth i’r gwaith barhau.

Dywed Mabon ap Gwynfor fod tirlithriadau yn dod yn fwy cyffredin ar draws rhannau o ogledd Cymru yn dilyn sawl blwyddyn o law anarferol o drwm.

Mae tirlithriadau wedi digwydd yn Llanbedrog a Phorth Neigwl dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ogystal ag ar hyd rhannau eraill o’r arfordir.

“Nid oes unrhyw un yn rhydd rhag bygythiad newid hinsawdd, a chenedlaethau’r dyfodol fydd yn wynebu’r canlyniadau gwaethaf,” meddai Mabon ap Gwynfor.

“Mae’r amser ar gyfer siarad wedi hen basio. Mae angen gweithredu radical i wyrdroi effeithiau newid yn yr hinsawdd.

“Mae’r rhybuddion gan wyddonwyr wedi bod yno ers blynyddoedd ond mae llywodraethau olynol wedi eistedd ar eu dwylo.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru hefyd edrych ar amddiffynfeydd arfordirol a sicrhau bod y seilwaith sydd gennym yn addas at y diben wrth i ni edrych ymlaen at fwy o’r digwyddiadau hyn.”

Galw am “adolygiad trylwyr”

“Mae angen cynnal adolygiad trylwyr o ba amddiffynfeydd sy’n ofynnol ar gyfer ein cymunedau arfordirol fel rhan o asesiad y llywodraeth o effaith newid yn yr hinsawdd,” meddai wedyn.

“Bydd Plaid Cymru yn anelu at ddatgarboneiddio a chyrraedd allyriadau net sero erbyn 2035.

“Dyna’r math o frys sydd ei angen os ydym o ddifrif ynglŷn â mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

“Mae angen i ni fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd gyda’r difrifoldeb y mae’n ei haeddu. Bydd methu â gwneud hynny yn arwain at ganlyniadau trychinebus i genedlaethau’r dyfodol.”

Galw ar bobol i “osgoi” traeth Nefyn yn dilyn tirlithriad

“Mae tirlithriad sylweddol wedi effeithio traeth Nefyn gyda rhan sylweddol o’r clogwyn wedi syrthio ar y traeth”