Mae Cyngor Sir Ceredigion yn dweud nad oes “dim esgus” dros adael sbwriel ar draws y llwybr, y meinciau a’r traeth yn Aberaeron.

Daw hyn ar ôl i boteli gwydr, caniau cwrw a chynwysyddion tecawê gael eu gadael ar hyd y lle yno dros y penwythnos.

Mae’r Cyngor wedi rhybuddio fod sbwriel yn peri risg sylweddol i fywyd gwyllt, bywyd y môr, pobol a’u hanifeiliaid anwes.

Cafodd 12 bag sbwriel eu casglu gan wirfoddolwyr a thîm glanhau strydoedd y Cyngor ddydd Sul (Ebrill 18).

Sbwriel ar lwybr traeth Aberaeron

“Gwrthgymdeithasol ac anghyfreithlon”

“Mae’r math hwn o ymddygiad yn wrthgymdeithasol ac yn anghyfreithlon,” meddai’r Cyngor mewn datganiad.

“Mae’n ymddygiad anghyfrifol ac annerbyniol gan oedolion ac mae’n gosod esiampl wael i blant.

“Mae ein tîm bach o lanhawyr strydoedd a thraethau yn gweithio’n galed saith diwrnod yr wythnos ac mae’r biniau’n cael eu gwagio’n amlach i adlewyrchu cynnydd yn nifer yr ymwelwyr yn y lleoliadau hyn.

“Fodd bynnag, mae’r hyn a welwyd yn Aberaeron yn dangos na wnaed unrhyw ymdrech i glirio a dod o hyd i fin.

“Er mwyn cadw Ceredigion yn lân, mae angen cefnogaeth yr holl drigolion lleol ac ymwelwyr arnom.

“Mae hyn yn golygu pobol yn defnyddio biniau sbwriel os oes un ar gael neu’n mynd â’u sbwriel adref gyda nhw os nad oes un ar gael.

“Mae’n syml iawn a gall pawb ei wneud.”