Mae £5,000 wedi’i gynnig fel gwobr i bobol am ddod o hyd i dri dyn mewn cysylltiad â llofruddiaeth yng Nghaerdydd.

Cafodd corff Tomasz Waga, oedd yn 23 oed, ei ddarganfod ar Ffordd Westville, Penylan, yn hwyr nos Iau, Ionawr 28.

Mae lle i gredu ei fod wedi teithio o Dagenham, Llundain, i Ffordd Casnewydd, Caerdydd lle bu ffrwgwd awr cyn dod o hyd i’w gorff.

Bu farw o ganlyniad i ymosodiad parhaus.

Daeth yr heddlu o hyd i ffatri canabis yn yr adeilad, ac maent yn credu bod ei farwolaeth yn gysylltiedig â throseddu cyfundrefnol.

Albania

Mae’r elusen yn apelio am wybodaeth er mwyn dod o hyd i’r tri dyn canlynol:

  • Josif Nushi sy’n 26 oed
  • Mihal Dhana sy’n 27 oed
  • Gledis Mehalla sy’n 19 oed

Daw’r tri dyn yn wreiddiol o Albania, ac mae ganddynt gysylltiadau yn Lushnie yn y wlad. Mae’n debyg eu bod nhw wedi dianc o Gaerdydd ddiwrnod ar ôl y llofruddiaeth.

Er mwyn cynorthwyo’r heddlu gyda’u hymchwiliad, mae Crimestoppers yn cynnig gwobr o hyd at £5,000 am wybodaeth am bob un o’r tri dyn.

“Roedd Tomasz yn fab, brawd, tad, a phartner oedd yn cael ei garu yn farw. Mae hwn yn achos syfrdanol, ac mae ei anwyliaid yn haeddu atebion,” meddai Cyfarwyddwr Gweithrediadau Crimestoppers.

“Mae ein helusen yn helpu’r ymchwiliad drwy gynnig gwobrau ariannol, ac yn apelio am wybodaeth ddienw gan y cyhoedd am symudiadau’r dynion.

“Mae angen cwestiynu’r tri ar frys, a chynghorir y cyhoedd i beidio â mynd atynt os ydynt yn eu gweld nhw,” ychwanegodd Mick Duthie.

“Mi fydd pobol yn gwybod lle maen nhw’n cuddiad, felly mae’n bwysig bod yn glir – gall unrhyw un sy’n helpu person sy’n osgoi cael ei gwestiynu, gael eu herlyn eu hunain.

“Mae’r elusen yma ar gyfer unrhyw un sy’n teimlo fel na allen nhw’n siarad gyda’r heddlu’n uniongyrchol. Rydym ni’n annibynnol, ac yn cynnig opsiwn amgen ar gyfer adrodd am droseddau.”