Ni fydd nifer o gwmniau bysus yn mynd â theithiau dramor eleni, hyd yn oed os ydyn nhw yn cael eu caniatáu.
Ni fydd pobol yn cael teithio dramor hyd o leiaf Mai 17, ac mae Mark Drakeford eisoes wedi dweud ei fod yn gobeithio y bydd y dyddiad yma yn cael ei wthio yn ei flaen.
Yn ôl cwmni Midway Motors, Crymych, mae eleni’n amser i “weld be sydd gyda ni ar ein stepen drws”, yn hytrach na mynd dramor.
Er ei fod yn “gweld goleuni ar ddiwedd y twnnel”, mae Shon Rees, cyfarwyddwr y cwmni, yn dweud eu bod nhw wedi colli lot o waith ac arian gan eu bod nhw methu mynd dramor.
“Y broblem sydd ‘da ti yw liciet ti fynd dramor, hwnnw yw’r nod, ond wedyn rydym ni wedi cael y cyhoeddiad gan y Llywodraeth nawr yn dweud ei bod hi’n edrych yn debygol iawn na fydd teithiau tramor eleni,” meddai Shon Rees o Midway.
“Ond, roedden ni bron yn gwybod yn ôl ym mis Ionawr bod dim teithiau tramor am fod eleni.
Anodd
“Ond pam hala’r amser yma i wneud y cyhoeddiad, pam na fysa nhw wedi dweud o’r dechrau fel bod pobol yn gwybod le ni’n sefyll?
“Y sefyllfa hynny dw i’n weld yn anodd,” eglurodd wrth golwg360.
“Ond dw i’n teimlo ein bod ni’n colli lot o waith, lot o arian, oherwydd ein bod ni ffaelu mynd dramor.”
“Mae teithiau gwyliau yn un peth rydym ni’n colli mas arnyn nhw, ond hefyd teithiau ysgol. Mae lot o deithiau ysgol yn mynd dramor i weld beddau’r Rhyfel Byd, a mas i Disney ac ati, felly ry’ch chi’n colli hynna i gyd hefyd.
“Mae’n mynd i fod yn anodd, ond mae yna oleuni ar ddiwedd y twnnel ynglŷn â theithio o fewn y Deyrnas Unedig felly bydd rhaid i ni roi pennau lawr a gweithio ar hwnnw, fi’n credu.
“Fel arfer, ni’n gwneud tua pum taith wyliau dramor, wedyn bydd tua deg i bymtheg taith ysgol dramor, i gyd yn pigo lan o unrhyw le dros dde Cymru.
“Ond, mae’n anffodus yn dydi? Ni’n gweld o fel colled i ni fel cwmni, colled ariannol, ond mae’n golled i’r plant hefyd.
“Maen nhw’n colli mas ar daith addysg hefyd, mae pob un yn colli mas mewn ffordd.
“Mae’n amser, efallai, i weld be sydd ‘da ni ar ein stepen drws, a gweld sydd ‘da ni yn ein gwlad ein hunain,” ychwanegodd Shon Rees.
“Teithio rownd Cymru a’r Deyrnas Unedig yw’r nod eleni.”
“Amser pryderus iawn”
Ni fydd cwmni Caelloi ym Mhwllheli yn mynd â theithiau i Ewrop eleni, chwaith, yn sgil yr ansicrwydd sydd wedi’i achosi gan Covid-19.
“Mae yna ansicrwydd mawr efo’r Covid ar hyn o bryd, a’r lefelau wedi codi yn Ffrainc ac ati, wedyn maen nhw’n ôl dan glo,” meddai Nerys Jones, o Caelloi.
“Mae Brexit yn cael effaith hefyd, does yna neb yn hollol saff pa effaith mae hynny’n ei gael.
“Ond, o ran diogelwch ein cwsmeriaid fe wnaethom ni’r penderfyniad bod hi ddim yn flwyddyn i ni fynd dramor.
Bob blwyddyn, bydd Cae Lloi yn gwneud tua ugain o deithiau tramor, rhwng tripiau preifat a rhai sy’n cael eu hysbysebu yn eu llyfryn.
“Mae’n amser pryderus iawn,” ychwanegodd.
Cymhlethdodau
“Ar y funud mae canllawiau a rheolau dreifio, oriau mae gyrrwr yn cael bod tu ôl i’r olwyn yn gaeth iawn.
“Rydych chi eisiau stopio ar y ffordd, lle fedrwch chi stopio’n saff, oes yna gyfleusterau i dderbyn criw o bobol?
“Problem arall yw nad yw gwestai eisiau llond bys ddim mwy, fel eu bod nhw’n gallu cadw pellter saff.
“Mae yna lot fawr o gymhlethdodau,” meddai Nerys Jones wrth golwg360.
“O ran agor llefydd bwyta ac ati ar y funud, dydi gwestai heb gael caniatâd i wneud hynny eto.
“Does yna neb am fynd ar ei wyliau a bwyta pecyn bwyd yn ei lofft, nagoes?
“A dyda ninnau ddim eisiau rhuthro i fynd nes bydd hi’n saff i bawb.
“Mae hi’n anodd, ac rydych chi’n trio bod yn ddoeth yn eich penderfyniad.
“Dim ond gwasanaeth lleol, a mynd â phlant i’r ysgol, fedra ni ei wneud ar y funud. Dim byd arall. Mae o’n horrible.”