Mae tŷ sydd ar werth am £625,000 ym Morfa Nefyn, Pen Llŷn, wedi cael ei ddisgrifio fel “anfoesol”.

Caiff ei ddisgrifio ar wefan y gwerthwr tai Purple Bricks fel “adeilad newydd trawiadol ym Morfa Nefyn – lleoliad y mae pobol lu yn ceisio symud iddo”.

Mae’n cynnwys stafell fyw a chegin fawr, ystafell amlbwrpas, tair ystafell wely a dwy ystafell ymolchi yn ogystal â gardd breifat amgaeedig gyda lle parcio mawr a garej ar wahân.

Ond y gofid ymysg pobol leol ydi na all trigolion ifanc yr ardal fforddio prynu tŷ o’r fath am bris mor uchel.

Dywedodd Wil Chidley, 22 oed, sy’n gobeithio prynu tŷ yn yr ardal gyda’i bartner wrth golwg360: “Mae’r ffaith bod y tai yma’n mynd am brisiau mor uchel yn peri gofid mawr i mi fel person ifanc.

“A dw i’n gwybod bod yno lot o’n ffrindiau i a phobol dw i’n eu hadnabod yn poeni’n ofnadwy am y peth hefyd.

“Yn yr ardal yma mae gen ti boblogaeth sy’n heneiddio gan fod pobol ifanc yn gorfod symud oddi yma.

Cipolwg ar y tu mewn i’r tŷ

“Dw i’n poeni fod yna ddim digon yn cael ei wneud gan y cyngor er mwyn sicrhau bod pobol ifanc yn gallu fforddio byw yn eu cymunedau.

“Roedd y tŷ yma, er enghraifft, yn dŷ gafodd ei adeiladu ac mae Cyngor Gwynedd yn amlwg wedi caniatáu i hwnna gael ei adeiladu er bod y Cyngor Tref yn gwrthwynebu’r cais

“Mae’n amlwg felly nad ydi barn y Cyngor Tref yn golygu dim i’r Cyngor Sir.”

‘Hawl i Fyw Adra’

Wrth drafod yr ymgyrch ‘Hawl i Fyw Adra’, gafodd ei ddechrau ym Morfa Nefyn, dywedodd Wil Chidley: “Mae o’n teimlo fel petai nhw’n lluchio’r cwbl yn ôl yn dy wyneb di.

“Gafodd yr ymgyrch yna ei ddechrau ym Morfa Nefyn, ac wedyn ti’n gweld tŷ yn mynd am bris fel’na.

“Mae’r peth yn ofnadwy.

“Dw i’n meddwl ei fod o’n hollol hanfodol bod y llywodraeth nesaf yn mynd i’r afael â hyn oherwydd dydi cymunedau bach ym Mhen Llŷn a Gogledd Cymru ddim yn mynd i gael unrhyw fath o ddyfodol os ydi hyn yn parhau.

“Mae’n rhaid meddwl beth allith gael ei wneud i greu sefydlogrwydd yn nemograffeg y pentrefi ‘ma er mwyn sicrhau fod y gymuned yn gynaliadwy.”

“Torcalonnus”

Dywedodd Gareth Tudor Morris Jones, Cynghorydd Sir dros Morfa Nefyn: “Dw i’n hynod o bryderus am y peth, ac yn teimlo dros bobol ifanc sydd methu’n glir a chael tŷ yn lleol. Mae o’n dorcalonnus.

“Ac mae o wedi dod i ben llanw efo pris y tŷ ‘ma, mae o du hwnt o afresymol . . . yn anfoesol a dweud y gwir.

“Mae pob tŷ sy’n mynd ar werth yn cael ei werthu’n syth ym Morfa Nefyn erbyn hyn a dyna rydan ni wedi poeni amdano ers tro yn lleol.

“Mae’r lle ‘ma yn newid o dan ein trwynau ni.

“Mi faswn i’n dweud bod hanner tai ym Morfa Nefyn yn ail-gartrefi erbyn hyn.

“Rydan ni isio pobol sy’n byw yma’n barhaol, nid dim ond am gyfnodau o’r flwyddyn.

Ghost town fydd hi os ydi pethau’n cario ‘mlaen fel hyn.”

Niweidiol

Dywedodd Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts: ‘Mae prisiau tai ar y farchnad agored wedi mynd ymhell tu hwnt i gyrraedd cyflogau lleol mewn sawl ardal yn Nwyfor Meirionnydd, gyda’r genhedlaeth iau yn arbennig, yn ei chael hi bron yn amhosib cael troed ar yr ysgol dai leol.

“Un o ganlyniadau y prisiau anfoesol yma yw mai ond pobl ariannog neu rhai ar gyflogau llawer uwch na’r cyfartaledd yma yng Ngwynedd all ystyried prynu y fath eiddo.

“A’r hyn sy’n digwydd gan amlaf yw fod y tai yma yn cael eu prynu fel tai gwyliau, gan arwain at ddiboblogi, sydd yn bygwth cynaliadwyedd ein cymunedau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Os bydd y sefyllfa yma yn parhau yna bydd mwy o deuluoedd a phobl ifanc sydd eisiau aros yn yr ardal i weithio a magu teulu yn cael eu prisio allan o’u cymunedau lleol gan arwain at oblygiadau niweidiol iawn a phellgyrhaeddol i fywyd cymunedol a’n diwylliant arbennig.”

Mae golwg360 wedi ceisio cysylltu â Chyngor Gwynedd a Purple Bricks i gael sylw.

Protestwyr Tai Haf Nefyn i gael cyfarfod Prif Weinidog Cymru

Huw Bebb

“Mae cymunedau Cymru yn marw, fel mae canlyniadau’r cyfrifiad diweddaraf ac arolwg o’r iaith a ddefnyddir ar fuarthau ysgol yn ei ddangos”