Mae Aelodau Seneddol Ffrainc wedi pleidleisio yn groes i’r Llywodraeth ac wedi cefnogi cyfraith i ddatblygu ieithoedd rhanbarthol y wlad yn y cwricwlwm addysg – digwyddiad mae’r bardd hanner Llydewig, Aneirin Karadog, yn dweud sy’n gwneud iddo deimlo’n “reit emosiynol”.

Cafodd y ddeddf ei phasio o 247 pleidlais i 76, er bod Jean-Michel Blanquer, Gweinidog Addysg Ffrainc, yn ei gwrthwynebu.

Hon oedd cyfraith gyntaf Ffrainc i gefnogi ieithoedd rhanbarthol ers 1958.

Bydd y gyfraith yn ei gwneud yn bosibl i blant dderbyn addysg mewn ieithoedd megis Llydaweg, Catalaneg, a Basgeg, yn ogystal â rhoi hwb i gyllid i ysgolion sy’n eu dysgu a chydnabod yr ieithoedd fel rhan o dreftadaeth genedlaethol Ffrainc.

Dathlu gyda chân

Ar ôl y bleidlais, bu Paul Molac, y gwleidydd Llydewig oedd yn gyfrifol am y gyfraith, a chriw o wleidyddion eraill yn canu anthem Llydaw, sydd â’r un dôn â Hen Wlad Fy Nhadau ac sy’n rhannu’r un ystyr o ran ei geiriau, ar risiau’r cynulliad cenedlaethol.

Daeth y bleidlais wythnosau yn unig ar ôl protestiadau yn Llydaw mewn ymateb i gynlluniau Llywodraeth Ffrainc i leihau nifer yr oriau o addysg Lydewig a ganiateir a thorri’r cyllid i hyfforddi mwy o athrawon Llydaweg.

Roedd Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc, wedi addo cefnogi ieithoedd rhanbarthol yn ystod ei ymgyrch etholiadol, ond gwrthwynebodd Michel Blanquer y gyfraith.

Honnodd fod Ffrainc eisoes wedi “cael y cydbwysedd iawn” rhwng ieithoedd rhanbarthol a Ffrangeg a bod perygl y gallai rhai plant ddisgyn ar ei hôl hi gyda’u Ffrangeg o ganlyniad i’r gyfraith.

‘Carreg filltir enfawr’

Wrth siarad â golwg360, dywedodd y bardd a’r hanner Llydäwr Aneirig Karadog ei fod “yn reit emosiynol yn gweld y bleidlais yn mynd drwodd”, gan ychwanegu ei bod yn “anodd credu’r peth, a dweud y gwir”.

“Mae’n gam mawr ymlaen bod Paul Molac wedi llwyddo i gynnig y ddeddf yma a mynd yn erbyn barn y Llywodraeth,” meddai.

“Mae hi’n garreg filltir enfawr i holl ieithoedd lleiafrifol Ffrainc, nid dim ond y Llydaweg.”

‘Ton o newid’

“Mae’n amlwg fod yna don o newid yn digwydd yn Ffrainc, sylweddoliad efallai, ond dw i’n meddwl fod y sefydliad yn dal i fod yn amheus ynghylch yr holl beth – paranoia gan y sefydliad Ffrengig bod yr ieithoedd lleiafrifol hyn yn bygwth ac yn cymryd lle’r Ffrangeg, sy’n boncyrs rili,” meddai wedyn.

“Mae Llywodraeth Ffrainc yn bod yn ddau wynebog am y peth oherwydd, ar un ochr, maen nhw’n clodfori cynlluniau i warchod y Ffrangeg yn Qubec, Canada, ond wedyn yn ceisio rhwystro ieithoedd lleiafrifol yn Ffrainc rhag cael cefnogaeth.

“Ond mae deddfwriaethau fel hyn yn gallu newid meddyliau pobol o ran y dewis maen nhw’n eu gwneud o ran siarad yr iaith gyda’u plant o bosib.

“Dw i’n credu fod hyn gyfystyr â deddf iaith i’r Llydaweg, Basgeg ac ieithoedd eraill lleiafrifol Ffrainc.”