Wnaiff Ian Gwyn Hughes fydd anghofio galwad John Motson pan eisteddai yn yr un gadair ddefnyddiai i wylio Match of the Day yn fachgen bach.

Pennaeth cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Ian Gwyn Hughes, yw’r gwestai ym mhennod olaf o’r gyfres Sgwrs Dan y Lloer.

Bydd Elin Fflur yn ymuno ag Ian yn ei ardd, yng Nghaerdydd, i drafod ei fywyd a’i yrfa fel sylwebydd pêl-droed, cyn iddo ymuno â’r Gymdeithas dros ddegawd yn ôl.

Yn y rhaglen, mae Ian yn dweud: “Ddaru fi ddechrau yn y BBC yn 1983, yn sylwebu a chyflwyno ar Radio Cymru, a wedyn mynd i gyflwyno Y Maes Chwarae ar S4C ar nos Sadwrn. Wedyn mynd i sylwebu ar Radio Wales, teledu, ar BBC Wales ar gemau rhyngwladol a gemau clybiau Cymru, ac mi oedd o’n gyfnod hynod o gyffrous. Nes i fwynhau’r cyfnod yn fawr a gweithio efo bobl gwych, fel cyd-ohebwyr neu ail leisiau.

“Oeddwn i’n cael fy magu yn gwylio Match of the Day, yn gwrando ar bobl fel John Motson a Barry Davies. Pan ges i’r gyfle, roeddwn i yn yr Eisteddfod yn Sir Fôn, lle roedd un o’r plant yn cystadlu, a ges i alwad ffôn, yn gofyn os swni’n licio dechrau gyda Match of the Day ym mis Awst.

“Oeddwn i’n arfer sylwebu ar ddydd Sadwrn a dydd Sul, falle fyswn i’n gwneud Radio Cymru ar dydd Sadwrn a Match of the Day ar ddydd Sul, ac aros ym Mae Colwyn. Ac oeddwn i’n digwydd gwylio Match of the Day un noson, yn y gadair oeddwn i’n arfer ei wylio fel hogyn, efo mam a dad efo fi, a dyma’r ffôn yn mynd. John Motson, y sylwebydd, oedd yn ffonio. Roedd o’n mynd i wneud gêm Southampton, yr wythnos wedyn, a fi oedd yn mynd i wneud Southampton yn ganol yr wythnos, ac roedd o’n gofyn a fyswn i’n gallu rhannu fy nodiadau gyda fo. A wedyn cofio dad yn gofyn, ‘pwy oedd ar y ffon?’, ‘Motty,’ meddai fi, a dad yn edrych arna fi yn methu credu’r peth! Ond mi oedd o’n od iawn fod o’n ffonio fi pan oeddwn i’n eistedd yn y gadair oeddwn i’n arfer eistedd ynddo pan oeddwn i’n wylio fo yn fachgen bach.

Cefnogwyr

“Mae o wedi bod yn ddeg, un-ar-ddeg blynedd gwych. Oni bob tro wedi credu ym potensial y Gymdeithas i wneud rhywbeth gyda phêl-droed Cymru. Falle oeddwn i’n un o’r rhai yn darlledu oedd yn beirniadu’r gymdeithas am y bethau oedden nhw yn wneud neu ddim yn wneud. Erbyn hyn, dw i’n gwybod pam fod pethau ddim yn cael ei gwneud; mae na rhesymau ariannol, rhesymau gwleidyddol, pob math o resymau.

“Wrth edrych yn ôl, roedd o fel rhyw fath o daith. Roedden ni wedi edrych ar sut oedden ni’n gallu gael y cyhoedd, hyd yn oed bobl oedd ddim yn licio bêl-droed, i gael diddordeb. Aethon ni o Gorau Chwarae Cyd Chwarae, i Together Stronger, a oedd hwnna i fod y cysylltiad rhwng y tîm, y Gymdeithas Bêl-droed, a’r cefnogwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol, a bod ni’n trosglwyddo hynny i’r chwaraewyr. Aethon ni i Ypres i weld bedd Hedd Wyn, i Aberfan i dalu teyrnged i’r plant gollodd eu bywydau yn y drychineb yna. Maen rhaid i ti sylweddoli fod lot o’r chwaraewyr wedi chwarae dros Gymru ddim wedi eu magu i Gymru, a ti eisiau rhoi syniad o pwy ydan ni iddyn nhw. Pan aethon ni i’r Euros, y bwriad oedd i ddangos bod ni’n gallu chwarae pêl-droed ond hefyd fod ni’n wlad ar ben ein hunain, efo iaith a diwylliant ein hunain.

“Oeddwn i’n gweld o fwy fel ffrind, na taid. Be wnes i ddysgu ganddo fo oedd hanes Cymru, o pan gaeth o’i eni i fyny at gyfnod ei farwolaeth, a’r ffordd oedd pethau ‘di newid. Roedd o’n sôn am ei fagwraeth yn Llanddulas, pan oedd o’n cofio mynd i lawr i weld y Frenhines Fictoria yn mynd i Gaergybi ar y trên ar y ffordd i Iwerddon a codi baneri, sôn am siarad Cymraeg adre, siarad Cymraeg gyda’i ffrindiau, mynd i’r ysgol a cael ei orfodi i siarad Saesneg a’r Welsh Not, ei gyfnod yn y Rhyfel, dwi di bod i’r Somme a Pashcendale, lle roedd o wedi bod, ac yn naturiol, sôn am y blaid, twf y blaid, be ddigwyddodd yn Pen-y-berth. Ac wedyn pan wnaeth o symud yn ôl i Landdulas yn 1970, dw i’n credu wnaeth hynny dorri ei galon, fod y pentref bellach just yn rhan o Hen Golwyn a Bae Colwyn, a bod o ddim yn clywed y Gymraeg bellach. Nes i ddysgu lot ganddo fo. Ond doeddwn i erioed di meddwl amdano fo o’r rhan fy ngwaith i. Doedd o methu gweld y fuss o gwylio 22 o ddynion yn cicio pêl o gwmpas cae!

Colli ei rieni a Gary Speed

“Nes i golli fy rhieni yn sydyn rili. Oeddwn i’n eistedd wrth fy nesg, newydd ddechrau efo’r Gymdeithas Bêl-droed. Dw i’n cofio just cael yr alwad yn dweud fod dad yn sâl, a wedyn hanner awr wedyn, galwad yn dweud fod o ‘di marw, roedd hynny ym mis Mehefin, tua 10 mlynedd yn ôl. A wedyn ym mis Tachwedd yr un flwyddyn, yr un peth efo mam. Oeddwn i’n y twnnel yn Stadiwm Dinas Caerdydd cyn y gêm yn erbyn Norwy, pan ges i’r alwad i ddweud bod hi’n sâl, a wedyn ar ôl hynny, yr alwad fod hi wedi marw’n sydyn. Nes i ddim gweld y gêm, a beth oedd yn eironig oedd, dyna oedd gêm olaf Gary Speed fel rheolwr Cymru. Oeddwn i’n aros i weld o i wneud rhywbeth gyda’r wasg, a phythefnos wedyn, nes i gysylltu efo Gary i ddweud fy mod i nôl yn gwaith ar ôl angladd fy mam, am tua naw o’r gloch ar y dydd Sul, ac am geshi’r alwad am chwarter wedi i ddweud fod o wedi marw. Oedd o’n fod i wneud rhywbeth i fi ar y dydd Llun ar gyfer strategaeth neu rhywbeth. Felly nes i golli bobl oeddwn i’n naturiol yn agos efo, yn bersonol ac yn broffesiynol, ddaru o’i gyd ddigwydd o fewn tua chwe mis.”

“Dw i’n credu fod ni wedi gosod sylfaen a beth fyswn i’n licio weld yn digwydd yn y blynyddoedd nesaf ydi fod pobl yn gweld pêl-droed Cymru, p’run ai tîm y dynion neu’r merched yn chwarae, ac yn teimlo eu bod nhw’n cynrychioli nhw. Cynrychioli’r wlad ar bob agwedd, nid just pêl-droed, ond ar agwedd ieithyddol, diwylliannol, hanesyddol, bopeth. Pawb sydd a mymryn o ddiddordeb, neu dim diddordeb, yn teimlo pan mae’r tîm cenedlaethol yn chwarae ar y llwyfan rhyngwladol, bo nhw’n cynrychioli Cymru, a popeth sydd yn dda ac yn bositif am Gymru ifanc, modern, hyderus.”

Gwyliwch y sgwrs gyfan am 8.25yh ar nos Lun Ebrill 12, ar S4C.