Mae’r frwydr tros sedd Gorllewin Caerdydd yn y Senedd yn argoeli i fod yn llawer mwy bywiog na’r disgwyl.

Bellach mae manylion ymgeiswyr wedi cael eu cyhoeddi gan gynghorau ledled y wlad, ac mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu manylion am sedd ein Prif Weinidog.

Ar hyn o bryd mae Gorllewin Caerdydd yn cael ei chynrychioli gan Mark Drakeford, arweinydd Llafur Cymru, ac mi fydd yntau yn rhoi cynnig ar amddiffyn y sedd yn yr etholiad ar Fai 6.

Roedd eisoes yn hysbys fod Rhys ab Owen (Plaid Cymru), Neil McEvoy (Propel), Sean Driscoll (Ceidwadwyr), Heath Marshall (Democratiaid Rhyddfrydol) a David Griffin (Gwyrddion) oll hefyd yn y ras.

Ond bellach, fe ddaeth i’r amlwg fod Captain Beany, seleb o Bort Talbot sy’n hoff iawn o ffa pob, yn ymuno â’r ras.

Ar ben y cyfan, mi fydd Lee Canning, ffigwr sydd wedi derbyn cryn feirniadaeth am ei sylwadau ynghylch ymgeisydd Plaid Cymru, yn sefyll ar ran Plaid Diddymu’r Cynulliad.

Yn sefyll ar ran Reform UK mae Nick Mullins.

Gogledd Caerdydd

Daw newyddion diddorol o ochrau Gogledd Caerdydd hefyd.

Bellach, fe ddaeth i’r amlwg mai Fflur Elin fydd yn sefyll yno ar ran Plaid Cymru.

Roedd Ashley Drake, yr ymgeisydd gwreiddiol, wedi camu o’r neilltu oherwydd anghydfod tros Ganolfan Ganser yn yr etholaeth.

Mae yntau wedi dweud “fydd ’na ddim ymgyrch gan Blaid Cymru yng Ngogledd Caerdydd” yn sgil ei ymadawiad yntau.

Ymgeiswyr Gorllewin Caerdydd

Llafur: Mark Drakeford

Plaid Cymru: Rhys ab Owen

Propel: Neil McEvoy

Ceidwadwyr: Sean Driscoll

Democratiaid Rhyddfrydol: Heath Marshall

Gwyrddion: David Griffin

Diddymu’r Cynulliad: Lee Canning

Annibynnol: Captain Beany

Reform UK: Nick Mullins

Ymgeiswyr Gogledd Caerdydd

Llafur: Julie Morgan

Plaid Cymru: Fflur Elin

Ceidwadwyr: Joe Williams

Democratiaid Rhyddfrydol: Rhys Taylor

Gwyrddion: Debra Cooper

Diddymu’r Cynulliad: Lawrence Gwynn