Mae’r Tywysog Philip wedi marw fore heddiw (Ebrill 9), wythnosau cyn ei benblwydd yn 100 oed.

Roedd Dug Caeredin yn briod â’r Frenhines ers 70 mlynedd.

Yn 2017, rhoddodd y Dug orau i’w ddyletswyddau brenhinol er ei fod wedi aros yn brysur a gweithgar wedi hynny.

Roedd gan Philip a’r Frenhines bedwar o blant, wyth o wyrion ac wyresau, a 10 o or-wyrion a wyresau.

Dywed datganiad: “Gyda thristwch dwfn y mae Ei Mawrhydi Y Frenhines yn cyhoeddi marwolaeth ei gŵr annwyl, Ei Uchelder Brenhinol Y Tywysog Philip, Dug Caeredin.”

“Bu farw ei Uchelder Brenhinol yn heddychlon y bore yma yng Nghastell Windsor.”

Bydd cyhoeddiadau pellach yn cael eu gwneud maes o law.

Dywed y datganiad fod y teulu brenhinol “yn ymuno â phobl ledled y byd i alaru ei golled.”

Senedd

Caiff Senedd Cymru ei galw’n ôl am 11am ddydd Llun i dalu teyrnged i Ddug Caeredin, a bydd llyfr cydymdeimlad ar-lein yn cael ei agor.

Dywedodd Elin Jones, y Llywydd: “Rhoddodd y tywysog flynyddoedd lawer o wasanaeth cyhoeddus.

“Roedd hyn yn cynnwys gwasanaeth milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd a chreu Gwobr Dug Caeredin sydd wedi rhoi profiadau a chyfleoedd hanfodol i gannoedd ar filoedd o bobl ifanc yng Nghymru a thu hwnt.”

Cadarnhaodd Llafur Cymru, Plaid Cymru a Cheidwadwyr Cymru fod ymgyrchu dros etholiad Senedd Cymru ar Fai 6 wedi ei atal am y tro.

Teyrngedau

Mae teyrngedau wedi eu talu iddo gan unigoion, pleidiau, a sefydliadau yng Nghymru, gan gynnwys Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew R T Davies, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds, ac Undeb Rygbi Cymru.