Mae cwnstabl gwirfoddol wedi cael ei ddiswyddo am decstio dynes gosbwyd am dorri’r cyfyngiadau Coronafeirws.

Ddoe, cynhaliwyd Gwrandawiad Camymddygiad i ystyried ymddygiad y cyn-gwnstabl gwirfoddol Jack Brennan oedd yn gwasanaethu fel rhingyll gwirfoddol gyda Heddlu Dyfed-Powys ar y pryd.

Ar Fehefin 2020 rhoddodd Mr Brennan hysbysiad cosb benodedig i ddynes am dorri’r Cyfyngiadau Coronafeirws.

Yn ddiweddarach y noson honno, anfonodd Mr Brennan neges destun ddigymell ati ar ôl cael ei rhif ffôn o’r gwaith papur a oedd yn gysylltiedig â’r hysbysiad cosb benodedig.

Holodd pa un ai a oedd hi’n sengl a gofynnodd iddi gwrdd ag ef am goffi.

‘Anghyfforddus’

Yn ddiweddarach, dywedodd hi am hyn wrth yr heddlu gan ei bod hi’n teimlo’n anghyfforddus gyda ymddygiad Mr Brennan.

Drwy gael gwybodaeth bersonol am aelod o’r cyhoedd a cheisio cychwyn perthynas â rhywun yr oedd wedi cyfarfod â hi wrth gyflawni ei ddyletswydd, camddefnyddiodd Mr Brennan ei swydd fel swyddog heddlu ac roedd mewn perygl o danseilio hyder y cyhoedd mewn plismona.

Ar ôl dod yn ymwybodol o’r mater, gwnaeth yr Adran Safonau Proffesiynol gyfeiriad yn syth i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, a benderfynodd gynnal ymchwiliad annibynnol.

Penderfynodd gwrandawiad camymddwyn, a gadeiriwyd gan gadeirydd â chymwysterau cyfreithiol, bod ymddygiad Mr Brennan wedi torri’r Safonau Ymddygiad Proffesiynol mewn perthynas â gonestrwydd ac unplygrwydd, awdurdod, parch a chwrteisi, cyfrinachedd ac ymddygiad gwarthus, a’i fod gyfystyr â chamymddwyn difrifol.

O ganlyniad, penderfynodd y panel y byddai’n rhaid diswyddo Mr Brennan pe bai dal yn gwasanaethu fel cwnstabl gwirfoddol.

Bydd Mr Brennan nawr yn cael ei ychwanegu at Restr Wahardd y Coleg Plismona i’w atal rhag ailymuno â’r gwasanaeth heddlu yn y dyfodol.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Dros Dro Claire Parmenter, “Mae Heddlu Dyfed-Powys yn disgwyl y safonau uchaf o’i holl swyddogion ac aelodau staff, ac eisiau sicrhau bod aelodau o’r cyhoedd yn medru cael ffydd a hyder llwyr yn yr heddlu. Pan mae ymddygiad swyddogion ac aelodau staff yn syrthio’n is na’r safonau uchel hyn, gall y cyhoedd fod yn dawel eu meddwl y bydd yr heddlu bob amser yn cymryd camau cadarnhaol.”