Mae Swyddfa’r Post wedi ymddiheuro i’r postfeistri a gafodd eu carcharu ar gam oherwydd methiannau yn ei system gyfrifiaduron.

Daw hyn ar ôl i’r cwmni ddweud na fydd yn gwrthwynebu apeliadau a oedd wedi eu cyflwyno ar ran 44 o gyn-bostfeistri i wrthdroi collfarnau yn eu herbyn.

Cafodd is-bostfeistri eu cyhuddo ar gam o ddwyn, twyllo a chyfrifo ffug ar ôl i system technoleg gwybodaeth gael ei chyflwyno i ganghennau Swyddfa’r Post yn 1999.

Meddai cadeirydd Swyddfa’r Post, Tim Parker:

“Mae’n wirioneddol ddrwg gen i ar ran Swyddfa’r Post am fethiannau hanesyddol sydd wedi effeithio’n ddifrifol ar rai postfeistri.

“Mae Swyddfa’r Post yn cyflwyno diwygiadau a fydd yn rhwystro digwyddiadau o’r fath o’r gorffennol rhag digwydd byth eto.

“Mae Swyddfa’r Post yn dymuno sicrhau bod pob feistr sydd â hawl i hawlio iawndal sifil oherwydd bod eu collfarnau wedi eu gwrthdroi yn cael eu talu cyn gynted â phosib. Felly, rydym yn ystyried y broses orau ar gyfer gwneud hynny.”

Dywedodd un o’r cyfreithwyr fu’n ymwneud â’r apeliadau ei fod wrth ei fodd gyda phenderfyniad Swyddfa’r Post i ildio i’r apeliadau.

“Mae gweld Swyddfa’r Post yn cydnabod eu bod wedi colli a pheidio â gwrthwynebu’r achosion hyn yn fuddugoliaeth fawr, nid yn unig i’r unigolion hyn, ond dros amser, i gannoedd o rai eraill bosibl,” meddai Neil Hudgel.