Wrth i’r Almaen ddathlu 30 mlynedd ers ailuno’r wlad mae’r arlywydd Frank-Walter Steinmeier wedi canmol “chwyldroadwyr heddychlon” a helpodd ei gwireddu.
Ar ôl degawdau o fyw dan raniadau’r Rhyfel Oer, fe ddaeth yr Almaen yn un wlad unwaith eto ar 3 Hydref 1990 pan ymunodd Dwyrain yr Almaen â gweriniaeth ffederal Gorllewin yr Almaen.
Roedd hyn lai na blwyddyn ar ôl i Fur Berlin ddod i lawr ac agor y ffiniau rhwng y ddwy wladwriaeth.
Oherwydd pandemig y coronafeirws, roedd y dathliadau yn weddol dawel – “yn dawelach na’r hyn y byddai’r achlysur yn ei haeddu” yn ôl y Canghellor Angela Merkel.
Arweiniodd yr Arlywydd Steinmeier y brif seremoni mewn neuadd y Potsdam, y tu allan i Berlin, gyda 230 o westeion – a oedd tua 20% o’r gynulleidfa a fwriadwyd yn wreiddiol.
“Mae gan yr Almaen le i ymfalchïo wrth ddathlu’r ailuniad, a ddaeth yn sgil protestiadau heddychlon a’i selio gan gytundeb rhyngwladol,” meddai.
“Mor wahanol oedd yr ailuno yn 1990 i ddyfodiad gwladwriaeth unedig yr Almaen bron i 150 o flynyddoedd yn ôl, a ddaeth trwy haearn a gwaed, rhyfeloedd â’n cymdogion, ac a oedd yn seiliedig ar oruchafiaeth Prwsia, ar filitariaeth a chenedlaetholdeb.
“Rydym yn byw heddiw yn yr Almaen orau a fu erioed – gadewch inni ddiolch i bawb a weithiodd drosti.
“Mae ein dathliad heddiw yn ein hatgoffa o werth trefn ryngwladol sy’n cael ei herio mor gryf heddiw, mewn cymdeithasau gorllewinol hefyd yn anffodus.”
Galwodd am greu cofeb i “chwyldroadwyr heddychlon” Dwyrain yr Almaen a helpodd ddod â’r wladwriaeth gomiwnyddol i ben.
“Gadewch inni gael lle sy’n ein hatgoffa fod Almaenwyr y Dwyrain wedi cymryd eu tynged i’w dwylo’u hunain a rhyddhau eu hunain.”