Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n rhybuddio bod y 576 o achosion newydd o’r coronafeirws sydd wedi eu cadarnhau dros y cyfnod 24 awr diwethaf yn amcangyfrif rhy isel.

Mae hyn oherwydd fod canlyniadau tua 2,000 o brofion yn hwyr.

“Mae hyn y tu hwnt i’n rheolaeth, ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi,” meddai Dr Chris Williams o Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Rhybuddiodd fod cynnydd anghymesur yn debygol dros y dyddiau nesaf wrth i’r canlyniadau hwyr gael eu cynnwys yn eu cyfrifon.

“Rydym hefyd yn gweld cynnydd yn nifer y bobl sy’n sâl iawn ac sydd wedi mynd i’r ysbyty oherwydd COVID-19,” meddai.

“Rydym yn pryderu bod llawer o’r gwaith da a wnaed dros yr ychydig fisoedd diwethaf mewn perygl o gael ei ddad-wneud. Os bydd y sefyllfa’n parhau i waethygu, efallai y byddwn yn wynebu sefyllfa lle bydd lefelau’r haint mor uchel â’r hyn a welsom yn gynharach eleni ym mis Mawrth ac Ebrill, a chyda hynny, daw’r posibilrwydd o osod cyfyngiadau mwy estynedig yn genedlaethol.”

Cynnydd cyson

Dywedodd Dr Williams fod pryder penodol am gynnydd cyson mewn achosion yn Nhorfaen, ond awgrymodd fod y darlun fymryn yn fwy gobeithiol yng Nghaerffili.

“Yn dilyn cyflwyno cyfyngiadau ym mwrdeistref Caerffili, mae ein data yn dechrau dangos tuedd ar i lawr,” meddai. “Er na allwn ddweud yn bendant fod y duedd hon yn ganlyniad i’r cyfyngiadau symud, rydym yn optimistaidd ac rydym yn edrych ar nifer o ffynonellau eraill i ddilysu’r canlyniadau hyn.”

Daeth i’r amlwg hefyd fod bron i chwarter yr achosion newydd – 132 – yn bobl sy’n byw’n arferol y tu allan i Gymru.

Fe fu farw pump o gleifion eraill dros yr un cyfnod 24 awr, gan ddod â chyfanswm y marwolaethau i 1,630.