Mae’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd wedi cytuno i ddal ati i geisio datrys eu gwahaniaethau yn nhrafodaethau masnach Brexit.
Siaradodd y prif weinidog Boris Johnson gyda llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula von der Leyen, heddiw, i bwyso a mesur lle maen nhw arni yn y trafodaethau a oedd i fod i ddod i ben yr wythnos yma.
Maen nhw wedi cytuno i ddweud wrth y ddau brif negodwr, yr Arglwydd Frost dros Brydain, a Michel Barnier dros yr UE, am ddwysáu’r trafodaethau ar ôl cydnabod bod “bylchau sylweddol o hyd” rhwng y ddwy ochr.
Mae Boris Johnson fel pennu cyfarfod Cyngor yr UE ar Hydref 15 fel y dyddiad olaf ar gyfer sicrhau cytundeb – sydd ymhen llai na phythefnos.
“Fe wnaethon nhw gytuno ar bwysigrwydd cael cytundeb, os yw’n bosibl mewn unrhyw fodd, fel sail gref am berthynas strategol rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig yn y dyfodol,” meddai llefarydd ar ran Downing Street.
“Maen nhw’n cadarnhau asesiad y ddau brif negodwr bod cynnydd wedi’i wneud dros yr wythnosau diwethaf, ond bod bylchau sylweddol yn aros, yn enwedig ond nid yn unig, ym meysydd pysgodfeydd, y cae chwarae gwastad a llywodraethiant.
“Maen nhw wedi dweud wrth eu prif negodwyr i weithio’n ddyfal er mwyn pontio’r bylchau hynny, ac wedi cytuno i siarad yn rheolaidd ar y mater hwn.”