Mae’r dyfalu ynghylch cyflwr Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn parhau ar ôl i’w dîm gwleidyddol a’i dîm meddygol wrthddweud ei gilydd.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty yn Washington er bod gan y Tŷ Gwyn gyfleusterau meddygol, ac fe ddywedodd meddygon ei fod e’n gwneud yn “dda iawn” ac mewn “hwyliau eithriadol”, ac nad oedd e’n dibynnu ar ocsigen i anadlu, ac roedd e’n gwrthod dweud a oedd e wedi cael ocsigen ar unrhyw adeg.

Ond yn ystod sesiwn briffio gan staff gwleidyddol y Tŷ Gwyn, fe ddywedon nhw fod yr arlywydd wedi profi “cyfnod pryderus iawn” a bod y 48 awr nesa’n dyngedfennol.

Dywedodd un ffynhonnell ei fod e wedi cael ocsigen cyn mynd i’r ysbyty.

Dywedodd yr arlywydd yntau mewn fideo ar Twitter ei fod e “dipyn gwell nawr”.

Dydy hi ddim chwaith yn glir pryd y cafodd e brawf positif, gyda rhai yn dweud llai na 72 awr ar ôl iddo gael ei daro’n wael, ac eraill yn dweud 72 awr union.

Mae disgwyl y bydd e’n parhau i weithio o’r ysbyty am y tro, wrth iddo baratoi ar gyfer yr ymgyrch arlywyddol, gyda’r etholiad ar Dachwedd 3.