Mae nam technegol yn golygu nad yw holl achosion coronafeirws Prydain wedi cael eu cynnwys yn y ffigurau dyddiol.

Erbyn 9 o’r gloch fore ddoe (dydd Sadwrn, Hydref 4), roedd 12,872 o achosion wedi’u cadarnhau mewn labordai ac erbyn 9 o’r gloch ddydd Gwener (Hydref 3), roedd yna 6,968 o achosion ychwanegol.

Ond yn ôl dashfwrdd swyddogol, roedd oedi cyn cyhoeddi’r ffigurau hyn ac fe fydd y ffigurau go iawn ar gyfer y cyfnod rhwng Medi 24 a Hydref 1 yn cael eu hychwanegu at y cyfanswm dros y dyddiau nesaf.

Mae hynny’n golygu y gallai cyfeirio at “record” ddyddiol wrth drafod y ffigurau fod yn “gamarweiniol”, yn ôl gwyddonwyr.

Dydy hi ddim yn glir o hyd faint o bobol gafodd eu heintio yn ystod y don gyntaf, yn sgil diffyg profion cymunedol ar y pryd.

Mae 480,017 o achosion wedi bod yng ngwledydd Prydain ers dechrau’r ymlediad, yn ôl ffigurau swyddogol.

Cafodd 49 o farwolaethau eu cofnodi erbyn 9 o’r gloch fore ddoe (dydd Sadwrn, Hydref 3), sy’n mynd â’r cyfanswm ers dechrau’r ymlediad i 42,317.

Ond mae ffigurau gan asiantaethau annibynnol yn nodi ffigwr sy’n nes at 57,900.