Mae trigolion Caledonia Newydd yn y Môr Tawel yn penderfynu mewn refferendwm a ydyn nhw am fod yn wlad annibynnol.
Aeth tri degawd heibio belach ers i’r ymgyrch dros annibyniaeth ddechrau, a hynny yn sgil trais.
Mae disgwyl i fwy na 180,000 o bobol bleidleisio yn y refferendwm fydd yn penderfynu a fydd y wlad yn parhau i gael ei rheoli gan Ffrainc.
Mae disgwyl i’r canlyniad gael ei gyhoeddi’n ddiweddarach heddiw (dydd Sul, Hydref 4).
Ddwy flynedd yn ôl yn y refferendwm blaenorol, roedd 56.4% o bleidleiswyr o blaid aros yn rhan o Ffrainc.
Mae Caledonia Newydd dan reolaeth Ffrainc ers 1853 pan oedd Napoleon III wrth y llyw, ac roedd y wla yn cael ei defnyddio bryd hynny fel carchar y wladwriaeth.
Daeth yn diriogaeth dramor wedi’r Ail Ryfel Byd, gyda holl drigolion brodorol Kanak y wlad yn cael dinasyddiaeth Ffrengig yn 1957.