Mae Adam Price wedi codi pryderon na chafodd y gwrthbleidiau wybod bod Llywodraeth Cymru am godi cyfyngiadau coronafeirws ynghynt na’r disgwyl.
Yn ôl Arweinydd Plaid Cymru, cafodd wybod bod y rheolau ynghylch cymysgu yn yr awyr agored am newid ddydd Sadwrn (Ebrill 24) nos Lun drwy “ddatganiad BBC dan embargo”.
Roedd cytundeb rhwng y pleidiau, meddai, y byddent yn cael rhagrybudd.
Mae Adam Price hefyd wedi codi pryderon ynghylch y ffaith fod Mark Drakeford wedi dweud na chafodd y Blaid Lafur “unrhyw gefnogaeth gan y gwrthbleidiau” wrth gyflwyno’r cyfnod clo cyn y Nadolig – mae Mr Price yn dweud bod hynny’n “hollol anghywir”.
Ynghyd â hynny, mae e’n teimlo fod y Blaid Lafur yn cymryd mantais o’u statws fel Llywodraeth Cymru yn ystod cyfnod etholiadol wedi ymddangosiad ar raglen Ask The Leader y BBC – barn y mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi’i hategu gan alw am drosglwyddo cynhadledd i’r wasg Llywodraeth Cymru y dydd Gwener yma (23 Ebrill) i’r prif swyddog meddygol.
“Mynd yn erbyn ysbryd a gair ein dealltwriaeth”
“Ar adeg hollbwysig yn yr ymgyrch etholiadol, rydw i’n dymuno codi nifer o bryderon sydd wedi dod i’r amlwg dros yr ychydig ddyddiau diwethaf,” meddai Adam Price mewn llythyr at Shan Morgan, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru.
“I ddechrau, fe gafodd y cytundeb i ddweud wrth y gwrthbleidiau am newidiadau i reolau Covid, a rhoi cyfle i’r gwrthbleidiau roi eu barn, ei dorri ddydd Llun Ebrill 19.
“Yn anffodus, cefais wybod am y llacio i’r rheolau ar gymysgu tu allan pan wnes i ddarllen datganiad BBC dan embargo nos Lun.
“Cafodd y penderfyniad ei wneud heb drafod o flaen llaw gydag arweinwyr y gwrthbleidiau, a chyn cyfarfod yr wyf i wedi’i drefnu gyda’r Prif Weinidog.
“Mae’n mynd yn erbyn ysbryd a gair ein dealltwriaeth gyda Llywodraeth Cymru yn y cyfnod yma cyn yr etholiad.”
Mae Adam Price hefyd wedi codi pryderon ynghylch y ffaith fod Mark Drakeford wedi dweud yn ystod cyfweliad gyda Ask the Leader na chafodd y Blaid Lafur “unrhyw gefnogaeth gan y gwrthbleidiau” wrth gyflwyno’r cyfnod clo cyn y Nadolig.
“Mae hyn yn hollol anghywir, a gellir profi hynny gan fod y BBC wedi adrodd ar Ragfyr 15 fod Plaid Cymru yn galw am dynhau’r cyfyngiadau.
“Ar adeg pan mae mwy o ymwybyddiaeth wleidyddol, rydw i’n gofyn am eich help i sicrhau fod y Prif Weinidog yn cywiro’r anghywirdeb.”
“Sicrhau cydraddoldeb a chwarae teg”
“Yn drydydd, fe wnaeth y Prif Weinidog nodi yn y cyfweliad y bydd e’n dweud ddydd Gwener [23 Ebrill] beth fyddai Llywodraeth Lafur yn ei wneud yn y tair wythnos wedi’r etholiad,” ychwanega Adam Price yn ei lythyr.
“Byddai’n hollol anaddas i’r blaid sy’n ffurfio’r llywodraeth ddefnyddio adnoddau, a sianeli cyfathrebu’r llywodraeth, i wneud cyhoeddiadau gwleidyddol am eu plaid lai na phythefnos cyn diwrnod yr etholiad.
“Hyderaf y byddwch yn cytuno fod yr hyn y gwnaeth y Prif Weinidog ei ddisgrifio neithiwr ar y teledu, am ei fwriad i ddefnyddio platfform Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfathrebu ynghylch yr adolygiad 21 diwrnod ddydd Gwener i drafod penderfyniadau polisi a allai llywodraeth Lafur y dyfodol eu gwneud petai’r Blaid Lafur yn ffurfio llywodraeth wedi’r etholiad, yn ymestyn tu hwnt i’r hyn sy’n cael ei ganiatáu dan ganllawiau’r llywodraeth.
“Felly, rydw i’n gofyn i chi, drwy rinwedd eich swydd fel gwarantwr niwtraliaeth, i sicrhau bod unrhyw gyfathrebu drwy’r platfform hwn yn cynnal gair ac ysbryd y canllawiau sydd ar waith i sicrhau cydraddoldeb a chwarae teg i bawb.”
Torïaid yn mynnu mai’r prif swyddog meddygol ddylai wneud y gynhadledd
Yn y cyfamser, am yr un rheswm, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud mai’r prif swyddog meddygol ddylai arwain cynhadledd coronafeirws Llywodraeth Cymru ddydd Gwener.
Dywedodd Janet Finch-Saunders, Ceidwadwyr Cymru:
“Mae Prif Weinidog Llafur wedi cael digon o gyfle i ddarparu map ffordd manwl i deuluoedd, gweithwyr a busnesau yng Nghymru, ond mae wedi dewis peidio â gwneud hynny’n fwriadol.
“Mae’n amheus felly ei fod, yn ystod y cyfnod mwyaf sensitif hwn yn etholiad y Senedd, wedi penderfynu gwneud nifer o gyhoeddiadau annisgwyl am gyfyngiadau symud.
“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn credu y gallai ac y dylai cyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r pandemig gael eu gwneud gan uwch weision sifil fel y prif swyddog meddygol, ac y dylai hyn fod yn wir ddydd Gwener.
“Yn anffodus, mae’r sylwad a wnaed neithiwr yn dangos nad yw’r cyhoeddiadau hyn yn ddim byd ond ymgyrchu amlwg gan Lafur, ac mae’n drist gweld y Prif Weinidog unwaith eto yn defnyddio bywoliaeth pobl fel yn ei gemau gwleidyddol.”
Sylwadau Mark Drakeford
Ar y rhaglen dan sylw, bu i Mr Drakeford ddweud: “Y cyfraddau coronafeirws yng Nghymru yw’r isaf yn y Deyrnas Unedig – y cyfraddau brechu yw’r gorau yn y Deyrnas Unedig.
“Mae hynny’n creu cyd-destun lle gallem adfer mwy o ryddid i bobl yn gyflymach nag yr oeddem wedi’i ragweld.”
Ychwanegodd y byddai’n rhoi rhagor o fanylion am leddfu’r cyfyngiadau symud ddydd Gwener (23 Ebrill): “Rwyf am ei wneud yn ein ffordd drefnus arferol.
“Bydd y penderfyniad hwnnw yn dod ochr arall yr etholiad, ond byddaf yn nodi’r hyn y byddai llywodraeth Lafur yn ei wneud yn y tair wythnos sy’n dilyn yr etholiad, a hynny gan ein bod wedi rhoi arwyddion ymlaen llaw yn rheolaidd i letygarwch dan do, gweddill y diwydiant twristiaeth, a phethau eraill am yr hyn y credwn y byddai cyd-destun iechyd y cyhoedd yn ei ganiatáu.”
Heddiw (dydd Mercher 21 Ebrill), wrth ymateb i’r ffrae, dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: “Mark Drakeford yw’r Prif Weinidog o hyd [ac] mae’n gwneud penderfyniadau pwysig i gadw Cymru’n ddiogel.
“Rydym yn ymwybodol bod Mr Price wedi anfon llythyr arall, rydym yn deall yr ymatebir i hyn maes o law.”