Pe basen nhw’n dod i rym yng Nghymru, mi fyddai Reform UK yn ceisio diwygio’r Senedd – nid ei diddymu.
Heddiw, fe wnaeth y blaid (Plaid Brexit gynt) lansio ei ‘Chytundeb â’r Bobol’, sef dogfen sy’n amlinellu ei pholisïau.
Yn y ddogfen mae’r blaid yn dweud ei bod yn “credu mewn gwneud penderfyniadau mor agos ag sy’n bosib at y bobol” ond mae’n ategu bod yna rwystredigaeth rhwng y cyhoedd â’r Senedd.
I fynd i’r afael â hynny, mi fydden nhw’n cyflwyno system bleidleisio gyfrannol, ac mi fydden nhw’n sicrhau bod etholiadau ar wahân yn cael eu cynnal i benodi Prif Weinidog Cymru.
Mae’r blaid hefyd yn gwrthwynebu cynyddu nifer yr Aelodau o’r Senedd, ac am i bwerau gael eu datganoli o Lywodraeth Cymru i gynghorau.
Mae UKIP a Phlaid Diddymu’r Cynulliad, dwy blaid o berswâd gwleidyddol tebyg i Reform UK, yn addo gwrthdroi datganoli os ddawn nhw i rym.
‘Diwygio wrth galon Reform UK’
“Wnaeth llawer ohonoch ymddiried ynom ni yn 2019, ac rydym yn gofyn i chi wneud yr un peth eleni,” meddai arweinydd y blaid yng Nghymru, Nathan Gill, yng nghyflwyniad y ddogfen.
“Daeth un peth i’r amlwg â refferendwm Brexit yn 2016, ac ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd ar Ionawr 2020: dydy ein sustem wleidyddol ddim yn ffit.
“Mae gennym hen sustem etholiadol sydd wedi’i dylunio i gadw dwy hen blaid mewn grym. O’r rheiny sy’n pleidleisio does gan filiynau ohonynt ddim cynrychiolaeth o gwbl.
“Diwygio’r Senedd, San Steffan a Thŷ’r Arglwyddi – dyna sydd wrth galon Reform UK.”
Mae’r blaid hefyd yn gwrthwynebu cyfnodau clo, ac yn addo na fydd rhagor yng Nghymru pe basen nhw’n dod i rym.