Mae Lee Waters, dirprwy weinidog dros drafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru, wedi ymddiheuro am feirniadu’r sylw a gafodd ei roi i achos llys llofruddiaeth George Floyd yn y cyfryngau.
Wrth i’r newyddion am ddyfarniad achos llofruddiaeth George Floyd dorri, dywedodd y byddai gan Gymru “ymgyrch etholiadol well” pe bai’n cael yr un sylw â “newyddion domestig yr Unol Daleithiau”.
Cafwyd cyn-swyddog yr heddlu Derek Chauvin yn euog o lofruddio George Floyd ar ôl penlinio ar ei wddf yn ystod ei arestiad ym Minneapolis fis Mai diwethaf.
Fe wnaeth Lee Waters bostio ei sylwadau ar Twitter wrth wylio Ten O’Clock News ar deledu’r BBC, oedd yn ymdrin â dyfarniad y rheithgor yn fyw nos Fawrth.
“Pe bai gan bobl yng Nghymru fynediad at gymaint o sylw yn y cyfryngau i benderfyniadau a oedd yn effeithio ar Gymru ag y maent yn ei wneud o newyddion domestig yr Unol Daleithiau, byddem yn cael ymgyrch etholiadol well,” meddai.
Yn ddiweddarach, dilëwyd y sylw ganddo, gan ddweud: “Ar ôl myfyrio, amseru ansensitif. Nid yw’n tynnu oddi ar difrifoldeb y mater, ond yn rhwystredig bod Newyddion 10 wedi troi ei hun yn News24.”
“Gwirion” a “Ffôl”
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: “Roedd trydar Lee Waters yn amhriodol iawn, yn wirion a di-feddwl.
“Mae llofruddiaeth George Floyd a’r achos dilynol o arwyddocâd byd-eang ac yn ein hatgoffa bod angen gwneud cymaint mwy i fynd i’r afael â hiliaeth strwythurol a sefydliadol – gan gynnwys yma yng Nghymru.”
Ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, dywedodd llefarydd: “Mae gwneud y gymhariaeth rhwng marwolaeth unigolyn yn nwylo’r heddlu a’i farn am ddarllediadau gwleidyddol yng Nghymru yn farn ffôl ac eithriadol o wael.
“Rydym yn falch o weld ei fod wedi dileu ei drydar.”