Mae cyflwynydd tywydd ITV, Ruth Dodsworth, wedi dweud na fyddai hi “yma nawr” pe na bai ei phlant wedi ei rhybuddio rhag dychwelyd adref at ei gŵr.

Roedd ei phlant wedi anfon negeseuon testun ati’n dweud “paid â dod adref, mae o’n mynd i dy ladd” ar ôl iddyn nhw weld eu tad Jonathan Wignall yn yfed ac yn aflonyddu ar eu mam gyda galwadau a thestunau.

Cafodd Wignall, 54, ei garcharu am dair blynedd yr wythnos diwethaf yn dilyn ymgyrch naw mlynedd o reoli ymddygiad, aflonyddu a stelcio cyflwynydd ITV Cymru yn ystod eu priodas.

Roedd hyn cynnwys ei chadw oddi wrth ei theulu a ffrindiau, ei chyhuddo o dwyllo arno, defnyddio ei holion bysedd i gael mynediad i’w ffôn tra’i bod yn cysgu, troi i fyny yn ei gwaith, a’i dilyn i’r ystafell ymolchi i sefyll y tu allan.

Darganfu’n ddiweddarach fod Wignall wedi gosod dyfais olrhain ar ei char y byddai weithiau’n ei defnyddio i’w dilyn.

Wrth siarad â rhaglen This Morning ar ITV, dywedodd Ruth Dodsworth, 45, fod y sefyllfa wedi gwaethygu ym mis Hydref 2019 pan ddechreuodd Wignall ei ffonio gannoedd o weithiau’r dydd yn gofyn iddi gyda phwy oedd hi.

“Y diwrnod penodol hwnnw roedd wedi dechrau yfed yn gynharach yn y dydd. Erbyn i fy mhlant gyrraedd adref o’r ysgol roedden nhw’n fy ffonio i ddweud ‘Mam, paid â dod adref. Paid â dod adref. Mae e’n mynd i dy ladd’.

“A dwi’n meddwl, i mi, roedd hynny’n drobwynt.

“Wnes i ddim mynd adref y noson honno… dwi’n meddwl pe bawn i wedi, na fyddwn i yma nawr.”

“Byw bywyd Instagram”

“Roeddwn i’n byw bywyd Instagram. Roedd gen i gartref hardd, neu dyna’r oeddwn i’n feddwl, car hardd, plant hardd,” meddai.

Ond roedd y cartref yr oedd Wignall yn honni ei bod yn berchen arno mewn gwirionedd ond yn cael ei rentu, ac roedd dyledion gwerth cannoedd o filoedd o bunnoedd wedi cronni yn ei henw gan adael iddi fethu â chael morgais neu hyd yn oed gerdyn credyd.

“Rwyf wedi gweithio ers 25 mlynedd, bob dydd i ITV. Ac nid oes gennyf, ar wahân i bensiwn bach iawn, ddim i’w ddangos ar ei gyfer,” meddai.

Dywedodd ei bod wedi siarad â ffrind am ymddygiad ei gŵr, a mai dyna wnaeth ei pherswadio i gysylltu â’r heddlu.

“Roeddwn i’n briod â’r dyn hwn am 18 mlynedd, ac rwy’n meddwl weithiau o fewn priodas ei hun ar y dechrau rydych chi’n ceisio gwneud iddo weithio,” meddai.

“Rydych chi’n meddwl, ‘Iawn mae hynny wedi digwydd, gadewch i ni symud ymlaen’. Ac rydych chi’n gwneud esgusodion, rydych chi’n ceisio rhesymu, rydych chi’n ceisio cyfiawnhau.

“Rydych chi’n plastro’r wên hon ar eich wyneb.”

Ychwanegodd: “Wrth edrych yn ôl nawr, gallaf weld yr arwyddion yno. Roeddem yn hapus, ond yr oedd adegau pan ddaeth ei dymer yn amlwg, i ddechrau tuag at bobl eraill.

“Wrth i bethau ddechrau chwalu mewn mannau eraill, aeth ei fusnes drwy anawsterau ariannol, fi oedd canolbwynt i’w dymer, ei ddicter.”

Dywedodd Ruth Dodsworth mai manylion yr achos yn dod yn gyhoeddus oedd “y peth gorau sydd erioed wedi digwydd wrth edrych yn ôl” ac anogodd eraill yn yr un sefyllfa i ofyn am help.

“Mor galed ag ydyw, gofynnwch. Oherwydd rwy’n edrych yn ôl nawr ac yn dymuno fy mod wedi gwneud hynny yn gynt.

“Fyddwn i ddim yma, fyddwn i ddim yn fyw pe na bawn i wedi gofyn am help.”