Mae yna gnwd swmpus o ymgeiswyr yn ceisio disodli’r Prif Weinidog. Gyda’r etholiad ymhen pythefnos, Iolo Jones sy’n bwrw golwg ar eu gobeithion…
O holl etholaethau Cymru, mae Gorllewin Caerdydd ymhlith y mwyaf diddorol.
Dyma yw sedd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, a dyma’r unig sedd y bydd yntau’n herio eleni.
Mwyafrif eitha’ bach oedd ganddo yn yr etholiad diwethaf yn 2016 – sef 1,176 – sy’n golygu bod y sedd hon ymhlith rhai lleiaf diogel y Blaid Lafur.
Os na fydd Mark Drakeford fuddugol y tro hwn, mi fydd yn cael ei ddiorseddu yn Aelod o’r Senedd ac yn arweinydd y genedl.
Does dim gwadu bod proffil y Prif Weinidog wedi codi cryn dipyn dros gyfnod y pandemig, ac mi fydd pobol y sedd yn siŵr o roi ystyriaeth i’r argyfwng wrth heidio i’r blychau pleidleisio.
Bydd rhai yn gweld yr etholiad yn gyfle i ddiolch i’r Prif Weinidog am ei wasanaeth i Gymru, tra bydd eraill yn manteisio ar y cyfle i gyfleu eu hanfodlonrwydd â dros flwyddyn o gyfyngiadau.
Tybed a yw’r Llafurwr yn ffyddiog mai rhannu eu gwerthfawrogiad y bydd rhan fwyaf o bleidleiswyr yr etholaeth?
“Mae lot o bobol yn dod lan, a dweud y gwir, ata’ i yng Ngorllewin Caerdydd [i rannu eu gwerthfawrogiad],” meddai Mark Drakeford.
“Ac ym mhob man dw i wedi bod maen nhw’n dweud eu bod nhw’n teimlo’n lwcus eu bod wedi byw yng Nghymru yng nghyfnod y coronafeirws.
“Maen nhw’n dweud eu bod wedi teimlo’n sâff yma yng Nghymru oherwydd y dewisiadau – y dewisiadau anodd ambell waith – mae’r Llywodraeth wedi eu gwneud.
“Wrth gwrs, bydd pobol yn gwerthfawrogi sut mae pethau wedi cael eu delio â nhw yma yng Nghymru ac yng Ngorllewin Caerdydd.”
Yn 2016 mi enillodd Mark Drakeford y sedd â 11,381 pleidlais (35.6%) ac mi ddaeth Neil McEvoy (ymgeisydd Plaid Cymru bryd hynny) yn ail agos gyda 10,205 pleidlais (31.9%).
Er mai anomali oedd y canlyniad hwnnw yn hanes y sedd – bu’r etholaeth yn un goch gadarn hyd at 2016 – mae’n bosib y bydd y Blaid Lafur ar bigau’r drain ar ddiwrnod y cyfri.
Mi allai pobol Gorllewin Caerdydd ddiorseddu Prif Weinidog Cymru, a byddai hynny yn ei dro yn cael sgil effaith ar ddyfodol Cymru a’i hymateb i’r pandemig.
“Dw i’n siŵr bydd hynna ar feddwl nifer o bobol yng Ngorllewin Caerdydd,” meddai Mark Drakeford wrth fyfyrio ar hynny.
Delio â’r pandemig yw prif flaenoriaeth Mark Drakeford, ond mae yntau’n awyddus i dynnu sylw at faterion lleol sydd o bwys iddo.
Mae eisiau cynyddu nifer y disgyblion sydd yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ardal, ac mae am i gysylltiadau trafnidiaeth wella rhwng y brifddinas a’r Cymoedd.
Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, bu Mark Drakeford yn gynghorydd sir tros Bontcanna rhwng 1985 ac 1993, a daeth yn Aelod o’r Senedd am y tro cyntaf yn 2011.
Ymgeisydd y Blaid yn barod am frwydr
Yn herio Gorllewin Caerdydd ar ran Plaid Cymru eleni mae Rhys ab Owen.
Mae e’ hefyd ar ben rhestr y Blaid yn rhanbarth Canol De Cymru, felly mae ei obeithion o ennill ei le yn y Senedd eleni yn hynod dda.
Mae Plaid Cymru wedi ennill o leia’ un sedd yn y rhanbarth ym mhob un etholiad, a’i dad, Owen John Thomas, oedd un o’r cyntaf i gynrychioli’r rhanbarth.
Daeth y Blaid yn hynod o agos i gipio Gorllewin Caerdydd yn yr etholiad diwethaf yn 2016, gyda’i hymgeisydd Neil McEvoy, ond mae’r sefyllfa eleni ychydig yn gymhleth.
Er iddo fethu ag ennill Gorllewin Caerdydd, daeth Neil McEvoy yn AoS Plaid Cymru yn 2016 trwy restr ranbarthol Canol De Cymru.
Cafodd ei wahardd gan y Blaid yn 2018 yn sgil ffraeo parhaus, ac yn 2019 mi roddodd y gorau i’w ymdrechion i ailymuno â’r Blaid.
Bellach mae wedi sefydlu plaid ei hun o’r enw Propel, ac mi fydd yntau yn herio Gorllewin Caerdydd ar ran y blaid honno ym mis Mai.
Cwestiwn amlwg sy’n codi yw: a wnaeth Neil McEvoy wneud yn dda yn 2016 oherwydd Plaid Cymru, neu ai’r gwrthwyneb sy’n wir?
Mae Rhys ab Owen yn derbyn bod gan Neil McEvoy “broffil uchel iawn” ac y gall hynny weithio o blaid y cyn-aelod Plaid Cymru, ond mae’n ffyddiog mai’r Blaid fydd yn fuddugol eleni.
“Wrth gwrs, tu ôl i Neil tro diwetha’ roedd strwythur y Blaid, roedd aelodaeth y Blaid, ac roedd gweithwyr y Blaid,” meddai.
“Rydym ni yng Ngorllewin Caerdydd wedi cadw’r actifyddion i gyd.
“A dw i’n hyderus, os ydych chi’n edrych ar Orllewin Caerdydd, yn edrych ar y posteri a phlacardiau, bod cefnogaeth y Blaid dros Orllewin Caerdydd i gyd.
“Ac efallai mai dim ond pocedi o gefnogaeth sydd gan Neil mewn ambell fan.
“Roeddwn wedi gweithio’n agos iawn gyda Neil. Wedi gweithio’n agos iawn yn etholiad 2016. Mi alle fe wedi bod yn wleidydd dawnus iawn.
“Ond trafferth Neil yw bod e’ ddim wedi gallu cydweithio, adeiladu pontydd, a chymodi gyda phobol.”
Yn sgil gwaharddiad Neil McEvoy o’r Blaid, roedd yna gryn ffraeo oddi fewn i’w changen yng Ngorllewin Caerdydd.
Roedd yr anghydfod yn lled-gyhoeddus, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mi dderbyniodd y cylchgrawn hwn lythyron anniddig gan garfannau gwahanol.
Tybed a yw pethau wedi sefydlogi yno erbyn hyn?
“Yn sicr mae aelodaeth yr etholaeth yn uwch nawr nag erioed,” meddai Rhys ab Owen. “Mae’n dal gyda ni griw gweithgar iawn.
“Ac mae unrhyw un sy’n credu bod y Blaid mewn llanast yng Ngorllewin Caerdydd, wel, mi fuaswn i’n eu gwahodd i ddod i Orllewin Caerdydd i weld yr holl waith rydym ni’n ei wneud, ac i weld yr holl gefnogaeth weledol sydd i’r Blaid yng Ngorllewin Caerdydd ym mhob rhan o’r etholaeth.”
Mae gan y Blaid “yn bell dros 400” o aelodau yn lleol, meddai Rhys ab Owen, gan ategu: “Fydden i ddim yn synnu os byddai hynny’n uwch nag aelodaeth Propel dros Gymru gyfan!”
Ymhlith ei flaenoriaethau mae delio â thlodi plant, ac mae’n llwyr gefnogol o bolisïau ei blaid i fynd i’r afael â’r broblem (e.e. cinio ysgol am ddim i bob plentyn).
Hoffai weld rhagor o bwerau yn cael eu datganoli tros y system gyfiawnder a darlledu. Mae’n cefnogi galwadau ei blaid am ‘Wasanaeth Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol’.
Cafodd yr ymgeisydd ei eni a’i fagu yng Nghaerdydd. Mae wedi bod yn Fargyfreithiwr ers 2010.
Dim dal nôl gan Neil McEvoy
Neil McEvoy yw arweinydd Propel ac mi fydd yntau’n herio’r sedd ar ran y blaid honno fis nesa’.
Mae wedi sefyll yn yr etholaeth ar ran Plaid Cymru ym mhob etholiad ers 2007, a dyma fydd y tro cyntaf iddo ei herio dan faner ei blaid ei hun.
Ers 2008 mae wedi gwasanaethu ward y Tyllgoed, fel cynghorydd sir, ac ers 2016 mae wedi bod yn Aelod o’r Senedd tros ranbarth Canol De Cymru.
Daeth yn agos at ennill Gorllewin Caerdydd i Blaid Cymru yn 2016, ac mae o’r farn mai ei apêl bersonol oedd yn bennaf gyfrifol am hynny.
“Yr ymgyrchoedd gwleidyddol dw i wedi’u harwain tros y 25 mlynedd diwethaf – dyna wnaeth ennill cefnogaeth i ni,” meddai. “Dyna yw’r realiti.
“Os wnewch chi gysylltu â fi, wna i sefyll wrth eich ochr yn y llys pan rydych dan fygythiad o gael eich taflu allan o’ch tŷ, ac mae pobol yn gwybod hynny.
“Mae gen i record gref iawn,” atega. “Mi es i i’r ysgol yma, mae gen i lawer o ffrindiau yma, ac mae gen i rwydwaith hynod o gryf.”
Bu i’r berthynas rhyngddo ef a’r Blaid suro yn arw, ac nid yw’n cuddio ei deimladau am ei gyn-blaid.
Barn yr ymgeisydd yw ei fod wedi profi canlyniad da yn yr etholiad diwethaf “er gwaethaf” Plaid Cymru, a bod “brand Plaid Cymru yn toxic mewn llefydd fel Caerdydd”.
“Mae Propel yn opsiwn deniadol iawn yn awr,” meddai. “A dw i’n credu bydd pobol yn synnu o weld pa mor wael fydd [y canlyniad] i Blaid Cymru.”
Mae Neil McEvoy wedi bod yn erfyn ar y cyhoedd i bleidleisio trosto ef er mwyn cael gwared ar Mark Drakeford yn Brif Weinidog.
Pe bai’r Propeliwr ei hun yn methu ag ennill oni fyddai ei yrfa ei hun yn wleidydd, a dyfodol ei blaid, yn y fantol? “Dw i wir ddim yn gweld ni’n colli,” meddai’n ateb ar ei ben.
Mae’n dadlau bod ei blaid wedi ysbrydoli pobol i bleidleisio am y tro cyntaf, ac mae’n ceisio cyfleu’r egwyddorion mae Propel yn eu cynrychioli.
“Gwleidyddiaeth dosbarth hen-ffasiwn ydym ni,” meddai. “Rydym yn cynrychioli buddion pobol sy’n gweithio. Rydym yn cynrychioli buddion y bobol sydd wedi’u hesgeuluso yn y Gymru fodern.”
Mae Propel yn sefyll tros annibyniaeth i Gymru, ac am sicrhau bod gan bobol gyffredin fwy o ddylanwad ar benderfyniadau mawrion yng Nghymru.
O ran blaenoriaethau lleol, mae Neil McEvoy yn awyddus i sicrhau digon o dai i bobol leol, ond mae hefyd yn frwd o blaid diogelu mannau gwyrdd rhag datblygiadau.
Mae’n parhau i wrthwynebu ymdrechion i ddympio mwd ‘ymbelydrol’ mewn dyfroedd rai milltiroedd o’r brifddinas.
Cyfaill byd busnes yw’r Ceidwadwr
Yn cynrychioli’r Ceidwadwyr unwaith eto eleni mae Sean Driscoll.
Mae’n hanu o’r Tyllgoed, yn berchennog busnes, ac wedi ceisio am y sedd ar ran y blaid yn 2016. Daeth yn drydydd y tro diwetha’ gyda 5,617 pleidlais (17.6%).
Mae wedi gwasanaethu fel cynghorydd sir tros Landaf ers 2017, ac mae’n ddirprwy Gadeirydd Ceidwadwyr Gorllewin Caerdydd.
Yn anad dim, mae’n awyddus i fynd i’r afael â goblygiadau’r argyfwng covid.
“Pe bawn yn cael fy ethol mi fuaswn yn sicrhau bod help ariannol ar gael fel bod busnesau yn medru adfer yn sgil cyfyngiadau’r cyfnodau clo,” meddai.
“Mi fydden hefyd yn sicrhau bod ysgolion yn derbyn yr holl gefnogaeth ac adnoddau sydd eu hangen er mwyn adfer yn sgil aflonyddwch [y cyfyngiadau].
“Byddai hynny’n cynnwys cefnogaeth iechyd meddwl i athrawon a phlant.”
Mi fuasai hefyd yn ceisio cynorthwyo gweithwyr iechyd a gofal wrth ddelio â goblygiadau’r argyfwng i’w hiechyd, a’u hiechyd meddwl.
Mae’n teimlo bod gamblo yn “dinistrio bywydau” ac mae’n awyddus i gyfrannu at ymdrechion i gyfyngu ar effeithiau negyddol hapchwarae.
‘Rhaid dweud y gwir’ am yr argyfwng hinsawdd
David Griffin yw Cadeirydd cangen y Blaid Werdd yng Nghaerdydd, ac ef fydd yn eu cynrychioli yng Ngorllewin Caerdydd eleni.
Mae wedi byw yn yr Eglwys Newydd ers 14 mlynedd, a gyda’r dydd mae’n gweithio fel ymgynghorydd ‘peirianneg mecanyddol’.
Pe bai’n dod yn Aelod o’r Senedd mi fyddai’n ymdrechu i sicrhau bod Cymru’n gwyrddhau yn gyflymach.
“Mae’n galonogol ein bod ni wedi datgan argyfwng hinsawdd yma yng Nghymru, ac ein bod wedi cyflwyno Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol,” meddai.
“Ond dim ond geiriau fydd y camau yma os na fyddan nhw’n arwain at newidiadau go-iawn yn ein bywydau.
“Rydyn ni’n methu aros blynyddoedd am weithredu, ac yn sgil addewidion y prif bleidiau yn etholiad cyffredinol 2019 dylwn fod wedi profi newid sylweddol erbyn hyn.
“Mae’r Blaid Werdd yn credu mewn dweud y gwir wrth bleidleiswyr.
“A’r gwir yw ein bod methu rhwystro niwed i ecosystem y blaned hon … heb newid go-iawn i’r ffordd rydym yn delio ag ynni, tai a thrafnidiaeth.”
Mater lleol sy’n destun pryder iddo yw’r cynlluniau sydd ar droed i godi tai ar goetir yn Danescourt.
Ffa o awyr iach
Mae’r ymgeisydd annibynnol Captain Beany yn honni ei fod yn dod o Blaned Beanus, ac mae ganddo weledigaeth hynod uchelgeisiol.
“Dw i wedi derbyn galwad brys i sefyll yng Ngorllewin Caerdydd, teyrnas Mr Mark Drakeford,” meddai. “Mae gen i gynllun hanner pob i’w ddisodli yn Arlywydd ar Gymru.
“Gyda fy Nghynghrair o gymeriadau rhyfeddol dw i’n mynd i ailenwi’r Senedd yn ‘Superhero Space Centre of Excellence’.”
Pe bai’n dod yn ‘Arlywydd’ ar Gymru, mi fyddai’n cael gwared ar Aelodau o’r Senedd ac yn gosod superheroes yn eu lle.
Mi fuasai Ironman yn gyfrifol am weithfeydd dur, a’r Incredible Hulk yn gyfrifol am faterion amgylcheddol… am ei fod yn wyrdd.
Un o ochrau Port Talbot yw’r Capten mewn gwirionedd, ac mae wedi ceisio am sawl sedd yn etholiadau San Steffan, a hynny heb lwc hyd yma.
- Fe wnaeth Golwg gysylltu â Heath Marshall (Democratiaid Rhyddfrydol), Lee Canning (Plaid Diddymu’r Cynulliad) a Nick Mullins (Reform UK) ond ni chafwyd atebion.