Mae wedi dod i’r amlwg bod maniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig yn ymrwymo i gefnogi cynllun sydd newydd gael ei ddileu yn Lloegr – a hynny am ei fod mewn perygl o roi cwmnïau allan o fusnes.
Y Grant Cartrefi Gwyrdd yw’r addewid dan sylw, grant y mae Llywodraeth Dorïaidd y Deyrnas Unedig wedi cael gwared arno ar ôl dim ond chwe mis oherwydd bod busnesau’n cael anawsterau ofnadwy oherwydd oedi wrth dalu.
Byddai’r cynllun yn cefnogi aelwydydd i wella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi gyda thalebau o hyd at £5,000, gydag aelwydydd ar incwm isel yn derbyn hyd at £10,000, yn ôl maniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig.
Ond ym mis Mawrth, canfu Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol Tŷ’r Cyffredin fod “effaith ei weithredu wedi arwain at ganlyniadau dinistriol i lawer o’r adeiladwyr a gosodwyr sy’n gallu gwneud y gwaith.”
Roedden nhw hefyd yn dweud bod y ffordd y gwnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig ymdrin â’r grant wedi cael ei “ruthro a’i weithredu’n wael … mae’n ymddangos bod y cynllun yn ddim byd llai na thrychinebus.”
“Ffars”
Dywedodd Julie James, Gweinidog Tai Llafur Cymru: “Allwch chi ddim gwneud hyn i fyny!
“Mae’r Torïaid yng Nghymru yn parhau i ddilyn y Torïaid yn Lloegr hyd yn oed pan ddaw pethau i ben mewn methiant llwyr. Ffars arall gan y blaid ‘Lloegr yn gyntaf, Cymru byth’.
“Mae Llafur Cymru wedi buddsoddi mwy na £360m ers 2011 i wella effeithlonrwydd ynni, gan haneru nifer yr aelwydydd sy’n profi tlodi tanwydd a galluogi degau o filoedd o aelwydydd Cymru i wresogi eu cartref i lefel ddiogel ac i arbed cannoedd o bunnoedd mewn biliau tanwydd blynyddol.
“Rydyn ni’n symud Cymru yn ei blaen, byddai’r Torïaid yn dal Cymru’n ôl.”