Mae’r Cymro, Syr Anthony Hopkins, wedi cipio’r wobr am yr Actor Gorau yn seremoni’r Oscars eleni.
Roedd yr actor 83 oed o Bort Talbot wedi ennill am ei rôl yn y ffilm The Father, am ddyn sy’n dioddef o ddementia.
Anthony Hopkins yw’r actor hynaf erioed i ennill Oscar yng nghategori’r actor gorau.
Fe enillodd Oscar yn 1992 am ei rôl fel Hannibal Lecter yn y ffilm The Silence Of The Lambs.
Y ffefryn i ennill y wobr eleni oedd y diweddar Chadwick Boseman (Ma Rainey’s Black Bottom), a fu farw yn 43 oed y llynedd ar ôl dioddef o ganser.
“Teimlo’n freintiedig iawn”
Nid oedd Anthony Hopkins yn y seremoni yn Los Angeles am ei fod ar wyliau yng Nghymru ar hyn o bryd, ond talodd deyrnged i Chadwick Boseman wrth dderbyn ei wobr.
Mewn clip byr a gafodd ei ffilmio heddiw, fe wnaeth Anthony Hopkins fynegi ei sioc o ennill y wobr.
“Bore da. Dw i yma yn fy mamwlad yng Nghymru, ac yn 83 oed doeddwn i ddim yn disgwyl ennill y wobr, doeddwn i wir ddim,” meddai’r actor.
“Dw i’n ddiolchgar iawn i’r Academi eto, diolch, a dw i eisiau rhoi teyrnged i Chadwick Boseman, a adawodd ni’n rhy fuan o lawer.
“Ac eto diolch yn fawr iawn i chi gyd. Wir, doeddwn i ddim yn disgwyl hyn, dw i’n teimlo’n freintiedig iawn. Diolch.”
Wrth siarad ar y pryd, dywedodd ei fod e a’r teulu “ar wyliau hir” ar ôl cael eu brechu.
“Felly rydyn ni yma yng Nghymru’n cael amser tawel, ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn i bawb felly yma fyddwn ni,” meddai Anthony Hopkins ar ôl ennill y Bafta.
Ei yrfa
Ar ôl gadael yr ysgol yn un-ar-bymtheg, a chwblhau ei wasanaeth milwrol, enillodd ysgoloriaeth i fynd i astudio yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd, cyn mynd yn ei flaen i astudio yn Llundain.
Ymunodd â’r Theatr Genedlaethol yn yr Old Vic ynghanol y 60au, ac roedd yn ddirprwy actor i Laurence Olivier yn sioe The Dance of Death.
Fe wnaeth llid y pendics olygu nad oedd posib i Laurence Olivier actio’r rhan, a oedd yn gyfle gwych i Anthony Hopkins.
Aeth Hopkins ymlaen wedyn i actio mewn ffilmiau, gan ddechrau gyda The Lion in Winter.
Er iddo frwydro gydag alcoholiaeth am gyfnod, enillodd Emmy ym 1981 am ei ran yn chwarae Hitler yn The Bunker, ac ar ôl ennill Oscar am ei ran yn The Silence of the Lambs cafodd ei enwebu am ddwy wobr arall am yr actor gorau yn y 90au.
Cafodd ei urddo am ei wasanaeth i’r celfyddydau ym 1993, ac ar ôl hynny aeth yn ei flaen i actio mewn amryw ffilmiau megis Bram Stoker’s Dracula, Howard’s End, Legends of The Fall, ac yn fwy diweddar yn un o ffilmiau Transformers.
Yr Oscars
Y ffilm Nomadland enillodd y brif wobr yn yr Oscars, gyda’r gyfarwyddwraig Chloe Zhao, a gafodd ei geni yn Tsieina, y ddynes gyntaf o liw i ennill y wobr am gyfarwyddo, a’r ail ddynes i ennill y wobr yn hanes yr Oscars.
Fe enillodd Frances McDormand y wobr am yr Actores Orau am ei rôl yn y ffilm Nomadland, sy’n adrodd hanes dynes yn teithio drwy orllewin America.
Daniel Kaluuya ennillodd yr Oscar am yr Actor Cynorthwyol Gorau am ei rôl yn Judas And The Black Messiah.
Yr actores o Corea, Yuh-Jung Youn, enillodd am yr Actores Gynorthwyol Orau am y ffilm Minari.
Cafodd y gwobrau eu cyflwyno yn Los Angeles neithiwr (nos Sul, Ebrill 25) gyda 170 o bobl yn unig yn bresennol, ar ôl i’r seremoni gael ei gohirio am ddeufis oherwydd y pandemig.
Mae wedi bod yn flwyddyn ansicr i’r diwydiant ffilm ac i’r celfyddydau’n gyffredinol yn sgil Covid-19 gyda sinemâu ar gau am fisoedd.