Mae Llenyddiaeth Cymru wedi lansio “cynllun mawr ei angen” i hyrwyddo lleisiau amrywiol yn niwylliant llenyddol Cymru.

Mae’r sefydliad yn lansio’r rhaglen datblygu proffesiynol gyntaf erioed i awduron o liw, rhaglen Cynrychioli Cymru: Datblygu Awduron o Liw heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 27).

Yn ôl Llenyddiaeth Cymru, mae’r rhaglen yn gam pwysig ar y daith i weddnewid diwylliant llenyddol y wlad, a’r nod yw annog ysgrifennu creadigol sy’n cynrychioli holl gymunedau Cymru, a sicrhau bod yna fuddsoddiad mewn unigolion talentog, amrywiol a fydd yn cael eu cydnabod ledled y wlad a thu hwnt.

Bydd y rhaglen, sy’n cael ei hariannu gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, yn rhoi cyfleoedd datblygu i bobol sy’n awyddus i ysgrifennu’n broffesiynol ym maes llenyddiaeth, drama, ac ysgrifennu i’r sgrîn.

Bydd y rhaglen yn cefnogi 12 o awduron i ddatblygu eu gwaith drwy gymorth ariannol a mentora, yn ogystal â thrwy ddod ag ysgrifennu a chyhoeddi yn fwy hygyrch.

Mae’r garfan gyntaf o awduron wedi’u dewis gan banel o bum cynrychiolydd o’r diwydiant, dan gadeiryddiaeth yr awdur a’r academydd Sandeep Parmar.

Gydag oedrannau’r rhai sydd wedi’u dewis yn amrywio o 21 i 61, mae’r garfan yn cynnwys yr Athro Marvin Thompson, y berfformwraig Emily Burnett, a Carl Connikie a oedd yn arfer gweithio i Heddlu Gwent.

Mae’r awduron wedi ymrwymo i greu o leiaf un darn o gynnwys, neu stori, er mwyn eu rhannu’n gyhoeddus i gyfleu eu profiad o’r rhaglen.

“Agor ein llenyddiaeth i leisiau newydd”

“Mae’r rhaglen hon yn gynllun angenrheidiol i agor ein llenyddiaeth genedlaethol i leisiau newydd, a’r rheiny’n lleisiau newydd hanfodol,” meddai’r Athro Sandeep Parmer, Cadeirydd y Panel Asesu, ac Athro Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Lerpwl.

“Fel panelwyr, cawsom ein gwefreiddio gan weledigaeth yr awduron hyn – gan y modd maen nhw’n dangos posibilrwydd canon arall, llawnach inni.

“Mae eu llwyddiant yn profi bod gan Gymru awduron o liw hynod o dalentog, sy’n mwy na haeddu derbyn cymorth ac, yn wir, yn haeddu cael eu dathlu.

“Mae cymhlethdodau eu gwaith, a’r ffordd maen nhw’n ymdrin ag iaith, diwylliant, tirwedd, treftadaeth a holl amrywiaeth Cymru yn gwbl ysbrydoledig.”

“Bwrw goleuni ar leisiau eithriadol”

“Ers cyfnod hir, mae ein diwylliant llenyddol, yn y ddwy iaith, wedi bod yn rhy unffurf, heb iddo wir adlewyrchu’r ystod o leisiau a phrofiadau sydd yng Nghymru,” meddai Lleucu Siencyn, prif weithredwr Llenyddiaeth Cymru.

“Mae nifer o unigolion a sefydliadau llawr gwlad wedi gweithio’n hynod galed i sicrhau cynnydd go iawn dros y blynyddoedd diwethaf, ond rhaid inni wneud mwy i roi llwyfan i’r talentau amrywiol a chyffrous sydd gennyn ni, fel y gallwn fod yn falch o ddiwylliant llenyddol bywiog sy’n hedfan baner dros gymunedau amrywiol Cymru.

“Rydyn ni’n ffodus iawn i gael amrywiaeth gyfoethog o awduron yng Nghymru, yn adrodd eu straeon eu hunain, ac mae’r diffyg cynrychiolaeth hanesyddol yma’n newid.

“Bydd y rhaglen bwysig hon yn bwrw goleuni ar leisiau eithriadol sy’n cynrychioli’r gorau o lenyddiaeth gyfoes Cymru, ac mae potensial gan bob un o’r awduron hyn i weddnewid ein diwylliant llenyddol ar gyfer cenedlaethau i ddod.”

Gweld “Cymru decach a mwy cyfartal”

“Os ydyn ni o ddifri dros weld Cymru decach a mwy cyfartal yna mae’n rhaid i ni wneud mwy na thalu gwrogaeth ar lafar yn unig er mwyn gwella amrywiaeth diwylliannol,” meddai Phil George, cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru.

“Mae’n hanfodol bwysig ein bod ni’n agor cyfleoedd sy’n rhoi gofod i ddatblygu talent ac mae rhaglenni fel y rhaglen hon yn rhoi llwyfan i awduron sy’n cael eu tangynrychioli i allu mynegi a datblygu eu creadigrwydd ac i gyflwyno barddoniaeth a rhyddiaith a fydd yn cyffroi, yn herio ac yn diddanu cynulleidfaoedd.”

Mae’r rhaglen yn cael ei lansio yng nghyd-destun creu newidiadau i Gwricwlwm Cymru, ar ôl i Lywodraeth Cymru dderbyn argymhellion adroddiad yr Athro Charlotte Williams ar anghydraddoldeb hiliol yn y system addysg.

Daw’r lansiad yn fuan ar ôl i Gyngor Celfyddydau Cymru benodi Andrew Ogun yn Asiant dros Newid, ac fe fydd yn arwain proses o newid diwylliant o fewn y Cyngor ac yn gweithio tuag at ddylanwadu cyfleoedd ar draws y sector.