Mae Geraint Lovgreen wedi dweud wrth golwg360 ei fod e “wirioneddol yn teimlo’r dryswch” pan aeth ati i drosi’r ddrama lwyfan mae’r ffilm The Father, sydd wedi sicrhau Oscar i’r Cymro Syr Anthony Hopkins, wedi’i seilio arni.

Mae’r ddrama Le Père yn adrodd stori gŵr sy’n ceisio deall yr hyn sy’n digwydd iddo wrth i’w gof ddadfeilio, a merch sy’n ceisio ymdopi â dementia ei thad.

Daeth Geraint Lovgreen yn fuddugol gyda’i gyfieithiad yng nghystadleuaeth Trosi Drama i’r Gymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2016, a chafodd Y Tad ei llwyfannu gan Theatr Genedlaethol Cymru wedyn, gyda Dyfan Roberts yn actio’r tad.

Enillodd Anthony Hopkins Oscar ddoe (Ebrill 26) am ei rôl yn y ffilm The Father, sydd hefyd yn addasiad o’r ddrama gan Florian Zeller.

Yn 83 oed, y Cymro yw’r person hynaf erioed i ennill Oscar yng nghategori’r Actor Gorau.

“Teimlo’r dryswch”

“Doedd dim rhaid i fi wneud dim byd felly,” meddai Geraint Lovgreen, gan ddweud nad oedd angen iddo ymchwilio i ddementia cyn mynd ati i gyfieithu’r gwaith.

“Fel unrhyw job cyfieithu, os yw’r peth wedi’i ysgrifennu’n ddigon da, ti’n cael y wybodaeth wyt ti’i isio o’r peth wyt ti’n ei gyfieithu.

“Dw i’n cofio bod ar goll lot o weithiau, doeddwn i ddim yn deall yn iawn.”

Ar y pryd, dywedodd Arwel Gruffydd, cyfarwyddwr y ddrama, a Chyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru fod “trosiad hyfryd Geraint fel pe bai’r ddrama wedi llifo o’i ben a’i bastwn ei hun; ond wedyn, yr un ydi’r salwch hwn ar bum cyfandir, mewn unrhyw iaith”.

“Es i at y peth heb wybod thema’r ddrama, a ro’n i’n ei gyfieithu fo ac yn meddwl ‘dydi hyn ddim yn gwneud sens’, ac roeddwn i wirioneddol yn teimlo’r dryswch,” eglurodd Geraint Lovgreen wrth golwg360.

“Roeddwn i’n dechrau amau fy hun: ‘be sy’n digwydd yn fan hyn?,’ ‘ydi hyn iawn?’

“Doeddwn i ddim yn deall beth oedd yn digwydd.

“Ond yn raddol, fe wnes i sylweddoli mai dyna thema’r ddrama, dementia. Roedd o’n rhyfedd.”

“Hwyl trio trosi o’r Ffrangeg”

Fe wnaeth Geraint Lovgreen gyfieithu’r ddrama yn syth o’r Ffrangeg, er ei fod yn cyfaddef na yw’n siarad yr iaith yn rhugl.

“Fe wnes i wneud Ffrangeg Lefel A flynyddoedd maith yn ôl, ac wedyn ro’n i eisiau rhywbeth i wneud, ac yn meddwl y bysa’n hwyl trio trosi rhywbeth o Ffrangeg,” meddai.

“Ro’n i’n chwilio trwy’r Rhestr Testunau am rywbeth i wneud, achos o’n i wedi cytuno efo Mari’r ferch ein bod ni am gystadlu ar rywbeth heb ddweud wrth ein gilydd be’, a gweld pwy fysa’n gwneud orau.

“Wedyn fe wnes i weld hwn, drama Ffrangeg, a gweld mai’r beirniad oedd Gareth Miles, sef fy athro Ffrangeg yn Ysgol Morgan Llwyd ers talwm.

“Ro’n i’n meddwl y bysa’n sbort gweld be fysa gan fy athro i’w ddweud am fy nghyfieithu o Ffrangeg.

“Roedd o fwy neu lai yn cyfieithu fel ag yr oedd o, ac fe wnes i ei lleoli hi yng Nghymru.

“Doeddwn i erioed wedi cyfieithu drama o’r blaen, a doeddwn i erioed wedi sgrifennu drama o’r blaen, felly roedd o’n brofiad gwahanol.”

“Ysgytwol”

“Wedyn dw i’n cofio mynd i’w weld o yn y theatr gyda Dyfan Roberts yn actio’r tad, ac roedd o’n hollol wych, roedd o’n ysgytwol,” meddai Geraint Lovgreen am y ddrama lwyfan.

“Yn amlwg nid fy ngwaith i oedd o, ond ro’n i’n teimlo’n falch fy mod i wedi bod rhywbeth i wneud â’r peth.

“Ar ôl i fi ennill y wobr yn yr Eisteddfod, cyn i Theatr Cymru lwyfannu hi, fe wnes i lot o drafod gydag Arwel Gruffydd y cyfarwyddwr.

“Fe wnaethom ni addasu tipyn go lew arni hi, jyst o ran y ffordd roeddwn i wedi sgrifennu ambell beth. Ges i lot o help gan Arwel i’w rhoi hi ar lwyfan.

“Dw i heb ddarllen dim byd arall o waith Zeller wedyn, na gweld unrhyw beth arall, ond pan welais i fod Anthony Hopkins yn cael yr Oscar am ei ran yn y ffilm, a dw i weld gweld clip ohoni, roeddwn i eisiau ei gweld hi.”