Mae rhaglen deledu Line of Duty yn “croesi’r llinell” meddai Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

Yn ôl Arfon Jones, mae’r portread o’r comisiynydd heddlu a throsedd yn y rhaglen yn “hollol afrealistig”.

Er ei fod yn mwynhau gwylio’r rhaglen, mae Arfon Jones yn mynnu nad yw ymddygiad y comisiynydd yn y gyfres, Rohan Sindwhani, yn argyhoeddi.

Ar Line of Duty cafodd y comisiynydd ei ethol er mwyn datgelu llygredd yn yr heddlu, ond yn ystod cyfresi blaenorol cafodd ei orfodi i ddweud celwydd am ganlyniad ymchwiliad i gysylltiadau sefydliadol gyda throseddau.

Ddim yn “arbennig o realistig”

“Dydw i ddim yn credu ei fod yn arbennig o realistig, nid yw’n wir i fywyd,” meddai Arfon Jones wrth drafod Line of Duty gyda Radio 4.

“Ni fyddai comisiynydd heddlu a throsedd yn cymryd rhan yn ochr weithredol plismona fel y mae’r comisiynydd heddlu a throsedd yn ei wneud yn y rhaglen.

“Y rhan lleiaf realistig yw pan fod y comisiynydd yn ymddiswyddo ar ôl i’r prif gwnstabl alw am lai o ymyrraeth wleidyddol.

“Ni fyddai hynny’n digwydd, senario llawer mwy tebygol fyddai i’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd alw ar i’r Prif Gwnstabl ymddiswyddo,” meddai Arfon Jones, sydd wedi bod yn y swydd yn y Gogledd ers pum mlynedd, ac wedi gweithio gyda’r heddlu ers 30 mlynedd cyn hynny.

“Mae’n fy nghythruddo i ychydig. Yn amlwg, naill ai dydy pwy bynnag sydd wedi cynghori cynhyrchwyr Line of Duty ddim yn ymwybodol o rôl comisiynydd heddlu a throsedd neu maen nhw’n ceisio pardduo enw da’r swydd.”

“Ar ôl pryderon cychwynnol, rwyf bellach yn llwyr gefnogi’r cysyniad o gomisiynwyr heddlu a throsedd gan eu bod yn fwy effeithiol ac effeithlon ac yn craffu’n well nag 17 aelod o awdurdod heddlu.”

Bydd y chweched gyfres o Line of Duty yn dod i ben nos Sul (Mai 2), ac mae’n argoeli y bydd y bennod yn un o’r digwyddiadau teledu mwyaf poblogaidd yn y blynyddoedd diwethaf.

Bydd gwylwyr yn gobeithio darganfod pwy yw’r pedwerydd plismon llwgr wrth i’r chwilio am “H” barhau.

Mae tymor Arfon Jones fel Comisiynydd ar fin dod i ben gan ei fod yn camu o’r neilltu, a gallwch ddarllen cyfweliad gyda dau o’r ymgeiswyr i’w olynu yma yn yr etholiad ar Fai 6 yma.

Wrth iddo gamu o’r swydd, gallwch ddarllen portread o Arfon Jones o Golwg 15 Ebrill, heb y wal dalu, isod.