Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn dweud bod “rhagor o’r un fath yn annychmygol” wrth ystyried y posibilrwydd y gallai Llafur aros mewn grym yn y Senedd.
Daw ei sylwadau mewn colofn yn y Sunday Times ar drothwy etholiadau’r Senedd ar Fai 6.
“Pan fyddwch chi’n pleidleisio, gofynnwch beth mae Llafur wedi’i wneud dros Gymru” yw pennawd y golofn, sy’n edrych yn ôl dros 22 o flynyddoedd y blaid mewn grym ers i’r Senedd – neu’r Cynulliad gynt – gael ei sefydlu.
Mae’r darn yn dechrau drwy gyfeirio at ddigwyddiad mawr ym myd chwaraeon yng Nghymru yn 1999, sef Scott Gibbs yn sgorio cais hanesyddol i dîm rygbi Cymru wrth iddyn nhw guro Lloegr o 32-31 yn Wembley.
Mae hefyd yn sôn mai Westlife oedd ar frig y siartiau Prydeinig, a bod yna bryder mawr ynghylch feirws cyfrifiadurol y ‘millennium bug’.
Wrth gysylltu’r olaf ohonyn nhw â sefydlu’r Senedd ym Mae Caerdydd, dywed fod “pensaernïaid datganoli wedi pitsio’r cynulliad fel ‘oes ddewr newydd”, ond mae’n dweud wedyn “yn yr un modd â’r ‘bug’ Y2K, mae wedi cwympo’n brin o’r disgwyliadau”.
22 mlynedd o reolaeth Lafur
Wrth asesu’r 22 o flynyddoedd y bu Llafur mewn grym yng Nghymru, dywed fod gan bobol yr “hawl” i ofyn beth mae’r blaid wedi’i wneud drostyn nhw yn y cyfnod hwnnw.
“Mae’r ffeithiau’n siarad drostyn nhw eu hunain ac mae’r blynyddoedd wedi bod yn dyst i ddirywiad difrifol yn ein heconomi, isadeiledd a gwasanaethau cyhoeddus,” meddai.
Er bod cyflogau’r Cymry a’r Albanwyr yn debyg bryd hynny, meddai, mae’r Cymro’n ennill £2,500 yn llai ar gyfartaledd erbyn hyn – “er gwaethaf targed Llafur o gael pob rhan o economi Cymru i o leiaf 90% o’r cyfartaledd Prydeinig”.
Mae’n dweud bod yr economi bellach yn 72.8% o’r cyfartaledd Prydeinig, i lawr o 74.2%.
Ac mae’n dweud bod isadeiledd Cymru’n “deilchion”, gan gyfeirio at ffordd liniaru’r M4, gwella’r A55 a systemau metro i’r de a’r gogledd fel cynlluniau sydd heb gael eu gwireddu.
Wrth drafod yr addewid i ddileu tlodi plant, mae’n dweud bod tri ym mhob deg o blant bellach mewn tlodi, sef y gyfran uchaf yng ngwledydd Prydain.
“Nid bai’r pandemig yw hyn a dydy datganoli yntau ddim ar fai chwaith,” meddai.
“Dyma sgandal mae Llafur wedi’i chreu.
“Yn drist iawn, teuluoedd Cymru sydd wedi talu’r bil.
“Mae cyfnod Llafur o 22 o flynyddoedd wedi gweld cynnydd o 188% mewn biliau treth y cyngor, tra bod dirwyiad gwasanaethau lleol yn anfesuradwy.
“Mae un ym mhob pump o bobol yng nghiw’r Gwasnaeth Iechyd – sy’n record.
“Maen nhw’n poeni neu mewn poen wrth iddyn nhw aros am lawdriniaeth neu driniaeth am ganser.
“Mae ysgolion Cymru ar waelod tablau cynghrair y Deyrnas Unedig, gyda gweinidogion yn cyfaddef iddyn nhw ’dynnu llygaid oddi ar y bêl’.”
‘Cyfle euraid i droi’r dudalen’
Yn ail hanner yr erthygl, mae Andrew RT Davies yn amlinellu cynlluniau’r Ceidwadwyr Cymreig pe baen nhw’n dod i rym, gan ddweud bod ganddyn nhw “gyfle euraid i droi’r dudalen” ac i “sicrhau’r newid sydd ei angen ar ein gwlad”.
Mae’n dweud y byddai’r blaid yn creu swyddi drwy fuddsoddi mewn isadeiledd a gwasanaethau gan gynnwys trafnidiaeth, ysgolion, ysbytai a chartrefi.
Mae’n cyfeirio hefyd at yr addewid i greu 65,000 o swyddi “sy’n talu’n dda”.
Ymhellach, mae’n dweud bod llwyddiant y cynllun “yn ddibynnol ar ymdrechion gweithwyr, busnesau ac entrepreneuriaid Cymru”, ac mai “rôl y llywodraeth nesaf yw eu cefnogi nhw”.
Byddai’r Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn torri cyfraddau’r dreth incwm erbyn 2025 “fel y gall teuluoedd gadw mwy o’u harian”, ac yn cynnig cymorth i gynghorau lleol fel bod modd rhewi biliau treth y cyngor.
“Bydd ein cynllun yn rhoi hwb i adferiad economaidd ac yn ein helpu i ailadeiladu dyfodol cryfach, mwy gwyrdd a mwy cyfartal,” meddai.
“Rydym wedi neilltuo £2bn i helpu i greu isadeiledd modern i Gymru, gan gynnwys opsiwn amgen i’r M4, diweddaru’r A55, yr A40 a’r A470, a 20,000 o fannau gwefru ar gyfer symud o gerbydau diesel i gerbydau trydan.
“Byddwn yn datblygu systemau metro yn y gogledd a’r de, gan sicrhau bod Cymru’n sero net erbyn 2050, gyda buddsoddiad mewn datrysiadau ynni glân i leihau allyriadau carbon, gyda’r nod o greu o leiaf 15,000 o swyddi gwyrdd.”
‘Mae’r dewis yn glir’
“Mae’r dewis ar Fai 6 yn glir,” meddai wedyn.
“Gallwn ni gael pum mlynedd yn rhagor o addewidion yn cael eu torri a methiannau Llafur, neu fe allwn ni bleidleisio dros newid a gyda hynny, y gobaith o wlad fwy llewyrchus gyda mwy o swyddi a chyfleoedd i’n plant.
“Mae rhagor o’r un fath yn annychmygol.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan y Blaid Lafur.