Mae India yn derbyn cymorth dyngarol yn dilyn cynnydd sylweddol mewn achosion o Covid-19.

Cafodd mwy na 320,000 o achosion newydd eu cyhoeddi ddoe (dydd Llun, Ebrill 26), ac mae gwasanaethau iechyd y wlad dan gryn bwysau.

Dim ond yr Unol Daleithiau sydd â mwy o achosion.

Roedd 2,771 o farwolaethau yn ystod yr un cyfnod o 24 awr, sy’n golygu bod 197,894 o bobol bellach wedi marw yn India yn sgil y pandemig – dim ond yr Unol Daleithiau, Brasil a Mecsico sydd wedi colli mwy o bobol.

Ond yn ôl arbenigwyr, gallai’r ffigwr go iawn fod dipyn yn uwch na hynny.

Cymorth

Mae India bellach wedi derbyn 100 o beiriannau anadlu a 95 o grynhowyr ocsigen gan Brydain.

Mae’r Unol Daleithiau, yr Almaen, Israel, Ffrainc a Phacistan hefyd wedi addo anfon cymorth meddygol i’r wlad.

Mae disgwyl y byddan nhw’n darparu ocsigen, profion diagnostig, triniaethau, peiriannau anadlu a chyfarpar amddiffynnol.

Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae’r sefyllfa “y tu hwnt i dorcalonnus”.

Mae lle i gredu bod amrywiolion ar fai am y cynnydd, ar ôl i’r llywodraeth fod yn brolio iddyn nhw drechu’r feirws.

Ond bellach mae disgwyl prinder gwlâu mewn unedau gofal dwys, prinder ocsigen a diffyg lle i gladdu ac amlosgi’r rhai sy’n marw.

Er mwyn mynd i’r afael â phrinder gwlâu, mae’r awdurdodau’n defnyddio trenau sydd wedi’u troi’n wardiau i ynysu pobol.

Mae tanceri ocsigen hefyd yn cael eu cludo o’r awyr.

O ran brechlynnau, mae disgwyl i’r Unol Daleithiau rannu cyflenwadau o’r brechlyn AstraZeneca gyda llywodraeth India, ac fe fyddan nhw’n cymryd camau eraill er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa, gan gynnwys anfon arbenigwyr i’r wlad.