Mae angen gweithredu ar frys er mwyn mynd i’r afael â “sgandal genedlaethol” tlodi plant, yn ôl Plaid Cymru.

Mae 180,000 – neu un o bob tri o blant y wlad – yn byw mewn tlodi.

Mae Plaid Cymru’n dweud y bydden nhw’n darparu taliadau o £10 yr wythnos i deuluoedd sy’n byw mewn tlodi, ac y byddai’r ffigwr hwnnw’n codi i £35 cyn diwedd y tymor nesaf yn y Senedd.

Yn ôl Delyth Jewell, ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer y Senedd yn etholaeth Caerffili, “gall ewyllys wleidyddol ddileu tlodi plant”.

Mae hi’n addo “ffocws di-baid ar dorri cylch y rhagolygon tlotach a chyrhaeddiad ysgol i blant o deuluoedd incwm is”.

Rhagolygon ‘yn fwy llwm nag o’r blaen’

Yn ôl Delyth Jewell, mae’r “rhagolygon nawr hyd yn oed yn fwy llwm nag o’r blaen”.

“Mae’n sgandal genedlaethol bod un o bob tri o blant Cymru yn byw mewn tlodi,” meddai.

“Mae Covid-19 wedi effeithio ar bawb yng Nghymru ond y rhai sydd fwyaf tebygol o ysgwyddo ei effeithiau tymor byr a thymor hir yw teuluoedd incwm isel a phlant sy’n byw mewn tlodi.

“Mae’r rhagolygon nawr hyd yn oed yn fwy llwm nag o’r blaen.

“Yn syml, nid yw’n ddigon da i’r llywodraeth Lafur osod targed o ddod â thlodi plant i ben 2020 ond i gerdded i ffwrdd oddi wrtho yn nes ymlaen.

“Ni fyddai llywodraeth Plaid Cymru yn tynnu ei llygad oddi ar y bêl – yn wir, gellir dileu tlodi plant yng Nghymru os yw’r ewyllys wleidyddol yno.

“Y ffordd orau yn y tymor byr i godi plentyn allan o dlodi yw rhoi arian iddi hi neu ei rieni.

“Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn darparu taliadau wedi’u targedu i deuluoedd sy’n byw mewn tlodi, gan gyflwyno Taliad Plant Cymreig o £35 yr wythnos i blant.

“Gall pleidleiswyr fod yn sicr bod pleidlais dros Plaid Cymru ar Fai 6ed yn bleidlais dros ffocws di-baid ar dorri cylch y rhagolygon tlotach a chyrhaeddiad ysgol i blant o deuluoedd incwm is.”