Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi addo cyflwyno gwelliannau i’r rhwydwaith rheilffyrdd a’r A55 er mwyn “ailddechrau” economi’r Gogledd.
Daw’r cyhoeddiad fel rhan o gynlluniau’r blaid i gyflwyno’r “rhaglen adeiladu ffyrdd fwyaf ers cenhedlaeth”.
Wrth wraidd eu cynlluniau i fuddsoddi £2biliwn i greu isadeiledd cryf i Gymru, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud y bydden nhw’n gwella’r A55, a chreu 20,000 pwynt pweru gwyrdd.
Pe bai’r blaid yn dod i rym wedi etholiadau’r Senedd, byddai’n fwriad i’r cynlluniau sbarduno economi’r gogledd a chreu mwy o swyddi, meddai’r Ceidwadwyr Cymreig mewn datganiad.
Byddai eu cynlluniau hefyd yn cynnwys creu metro i’r gogledd, a “fyddai’n ei gwneud hi’n haws i bobol fynd i’w gwaith, creu cytundebau, a chymdeithasu”.
“Amser i hyn newid”
“Ers rhy hir, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi esgeuluso isadeiledd trafnidiaeth, yn enwedig yng ngogledd Cymru,” meddai Grant Shapps, Gweinidog Trafnidiaeth y Deyrnas Unedig.
“Mae’n amser i hyn newid. Wrth weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn cyflwyno rhaglen i adfer Cymru gan greu swyddi, a helpu i ailadeiladu’n well wrth adael y pandemig.
“Byddai cyflwyno gwelliannau i’r A55 yn rhan o hynny – gan roi hwb i economi gogledd Cymru, a rhoi cysylltiad gwell i deuluoedd a busnesau’r ardal gyda gogledd-orllewin Lloegr.”
Adferiad economaidd yn “ganolog”
“Wrth i ni symud allan o’r pandemig, mae’n rhaid i adferiad economaidd Cymru fod yn ganolog,” meddai Russell George, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar drafnidiaeth a’r economi.
“Mae gogledd Cymru yn dioddef ar ôl 22 mlynedd o esgeulustod gan lywodraethau Llafur olynol ym Mae Caerdydd. Mae economi’r ardal wedi cael ei dal yn ôl, mae swyddi da yn brin, ac mae ein isadeiledd yn chwalu.
“Er hynny, mae gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun i wneud iawn â’r drwg hyn, a rhoi’r darnau yn eu lle er mwyn adfer economi Cymru.
“Mae hynny’n dechrau drwy gydweithio â Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno gwelliannau mawr eu hangen i’r A55, a gwella cysylltiadau rheilffyrdd â’r gogledd orllewin [Lloegr] er mwyn ailagor ein heconomi, a chreu mwy o swyddi ar draws gogledd Cymru.”