Mae Boris Johnson wedi gwadu dweud ei fod yn barod i adael i “gyrff bentyrru’n uchel” yn hytrach na gorchymyn cyfyngiad clo coronafeirws arall.
Dywedodd y Prif Weinidog fod y cyfyngiadau clo wedi gweithio a mynnodd fod y cyhoedd am i’r Llywodraeth ganolbwyntio ar fynd i’r afael â’r coronafeirws wrth iddo wynebu cwestiynau am y dadlau chwerw yn y wasg o amgylch Rhif 10 Stryd Downing.
Yn ol y sôn, gwnaed y sylwadau ar ôl i’r Prif Weinidog gytuno i’r ail set o gyfyngiadau clo, gan awgrymu bod Mr Johnson yn barod i wynebu cynnydd mewn marwolaethau yn hytrach na gorchymyn trydedd set o gyfyngiadau – rhywbeth y cafodd ei orfodi i’w wneud yn y pen draw.
“Chatty rat”
Cafodd y penderfyniad ar yr ail set o gyfyngiadau yr hydref diwethaf ei ollwng i’r wasg – ac mae’n destun ymchwiliad i ddod o hyd i’r “chatty rat“, fel y’i gelwir, a ddatgelodd hynny.
Disgwylir i was sifil uchaf y Deyrnas Unedig nodi nad yw wedi clirio cyn-gynghorydd Mr Johnson, Dominic Cummings, dros y datgeliad hwnnw, er bod Mr Cummings yn gwadu mai ef oedd yn gyfrifol.
Mae disgwyl i Simon Case, Ysgrifennydd y Cabinet, ddweud bod ei ymchwiliad yn dal yn “fyw” pan fydd yn ymddangos gerbron Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Tŷ’r Cyffredin (PACAC) ddydd Llun.
Mae Mr Cummings wedi cyhuddo Mr Johnson o geisio rhwystro’r ymchwiliad ar ôl dysgu bod cyfaill agos i’w ddyweddi, Carrie Symonds, yn gysylltiedig â’r mater – hawliad y mae’r Prif Weinidog yn ei wrthod.
Mewn blogiad ymfflamychol, aeth Mr Cummings ymlaen i ddweud bod Mr Case wedi dweud wrth Mr Johnson nad ef na’r cyfarwyddwr cyfathrebu ar y pryd, Lee Cain, oedd yn gyfrifol am ddatgelu’r wybodaeth.
Fodd bynnag, dywedodd swyddogion sy’n gyfarwydd â’r ymchwiliad nad oedd yr ymchwiliad wedi “glanio” ar unrhyw un unigolyn nac wedi clirio unrhyw un.
Mae Mr Cummings wedi bod yn taro’n ôl ar ôl iddo gael ei gyhuddo gan Rif 10 o gyfres o ddatgeliadau niweidiol, gan gynnwys negeseuon testun rhwng Mr Johnson a’r dyn busnes, Syr James Dyson.
Mae Gweinidogion bellach yn pryderu am yr hyn y gallai ei ddweud pan fydd yn rhoi tystiolaeth i ASau sy’n ymchwilio i ymateb y Llywodraeth i’r pandemig fis nesaf.
Mae’n hysbys bod Mr Cummings wedi bod yn feirniadol o Mr Johnson am oedi cyn lansio ail set o gyfyngiadau clo yn Lloegr pan ddechreuodd niferoedd yr achosion godi yr hydref diwethaf – ac mae dyfalu y bydd yn ceisio ei feio am y nifer uchel o farwolaethau.
Y Daily Mail
Mae’r Daily Mail wedi cyhoeddi’r honiad fod y Prif Weinidog, yn dilyn y cyfyngiadau symud, wedi dweud y byddai’n well ganddo weld “cyrff yn pentyrru’n uchel yn eu miloedd” na gorchymyn trydydd un.
Nid yw’r papur wedi nodi ffynhonnell ar gyfer yr honiad, ond mae gweinidogion wedi taro’n ôl ar “glecs” a ledaenwyd gan “gynghorwyr dienw”.
Pan ofynnwyd iddo a wnaeth y sylwadau, dywedodd Mr Johnson wrth ohebwyr yn Wrecsam: “Na, ond rwy’n credu mai’r peth pwysig yw bod pobl am i ni fwrw ymlaen fel Llywodraeth a sicrhau bod y cyfyngiadau yn gweithio.
“Maen nhw wedi gweithio, ac rwy’n talu teyrnged wirioneddol i bobl y wlad hon, y wlad gyfan, ein gwlad ni, am ddod at ei gilydd yn wirioneddol ac, wrth weithio gyda’r rhaglen frechu, mae’r clefyd dan reolaeth.”
Mynnodd nad oedd y “stwff y mae pobl yn sôn amdano” yn San Steffan yn faterion sy’n cael eu trafod ar garreg drysau cyn etholiadau Mai 6.